Nod y Prosiect
Nod The Journey yw creu platfform codi arian mewn steil gêm fideo sy’n cynnig nifer o brofiadau. Mae pob un yn amlygu achos gwahanol sy’n bwysig i’n cymuned, ac mae wedi’i ysbrydoli gan straeon y bobl a effeithir gan yr achos hwn. Bydd y gêm yn cynnig pryniadau yn yr app a fydd yn helpu’r chwaraewyr i roi hwb i’w bywyd rhithwir, tra bydd canran uchel o’r eitemau a brynir hyn yn mynd i helpu’r sawl a effeithir gan yr achos drwy elusennau yr ymddiriedir ynddynt.
The Journey yw'r platfform codi arian elusennol a symudol cyntaf yn y byd ar ffurf gêm nad yw’n gaeth i achos penodol. Mae’n cefnogi elusennau sy’n helpu ffoaduriaid a’r digartref ac yn rhoi cymorth iechyd ac iechyd meddwl, yn y DU yn y lle cyntaf. Mae The Journey yn galluogi elusennau partner i adrodd hanesion bywyd go iawn y bobl y maen nhw’n ceisio eu helpu mewn ffordd ryngweithiol sy’n peri i chwaraewyr y gêm ymgolli ynddi ac yn ei gwneud hi’n bosibl iddyn nhw gymryd camau ar unwaith i gynorthwyo’r rhai sy’n wynebu sefyllfaoedd bywyd go iawn, a hynny drwy wario yn yr ap. Mae'n targedu chwaraewyr gemau symudol rhwng 18 a 35 oed nad oes ganddyn nhw ddiddordeb blaenorol o reidrwydd yn yr achosion neu'r elusennau.