Nod y Prosiect
Mae Bright Branch Media yn gweithio gyda rhai o gwmnïau drama annibynnol mwyaf y DU. Mae’r dalent yn Bright Branch yn arbenigwyr wrth greu profiadau drama digidol i gynulleidfaoedd yn y DU ac yn fyd-eang ar draws amryw blatfformau. Ein nod yw datblygu cynnyrch a fydd yn sbarduno arloesi wrth adrodd straeon drwy alluogi pobl i gymryd rhan mewn profiad byw wedi’i sgriptio ar draws nifer o blatfformau cymdeithasol mewn ffordd ystyrlon ac ymgysylltiol. Daw hyn â phrofiad drama newydd difyr a fydd yn sbarduno cynulleidfaoedd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol i gymryd rhan, gan eu galluogi i ryngweithio a dylanwadu ar gymeriadau ... yn fyw!
Fe aeth ein prosiect ymchwil a datblygu, a ariannwyd gan Glwstwr Bright Branch Media The Disappearance of Jayden Jones yn fyw am 7pm ddydd Iau (10 Chwefror 2022).
Nod ein prosiect oedd datblygu ein dealltwriaeth o ddrama ffuglennol fyw, ynghyd a'n harbenigedd technegol ynddi. Diben y digwyddiad ffuglennol oedd helpu i ddatblygu ein chwedleua rhyngweithiol a mireinio ein prototeip technegol.
Roedd y gynulleidfa’n gallu cymryd rhan yn ystyrlon yn y profiad byw hwn a oedd wedi’i sgriptio ac a oedd yn digwydd ar Facebook a YouTube. Fe wnaethon nhw hynny drwy ddefnyddio eu sgiliau ditectif arbennig i chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o ddatrys y dirgelwch.
Aeth pob aelod o'r gynulleidfa yn un o'r ditectifs yn y ddrama fyw hon, gan helpu Tara, y prif gymeriad, yn ei chenhadaeth i ddod o hyd i'w brawd, Jayden Jones, gan ddefnyddio'r rhyngrwyd a'r cyfryngau cymdeithasol i’w olrhain o'r noson cyn iddo ddiflannu.
Llwyddodd Tara i fonitro postiadau’r gynulleidfa ac ymateb iddyn nhw’n uniongyrchol, gan eu tynnu i mewn i'r naratif a'u gwneud yn bobl allweddol yn y ddrama. Gan mai prosiect ymchwil yw hwn, croesawyd adborth i helpu i wella'r cynnyrch rydyn ni’n ei greu.