Nod y Prosiect
Bydd Llenyddiaeth Cymru’n ymchwilio ac yn dadansoddi hyfywedd masnachol cynnwys gemau fideo newydd yn seiliedig ar fythau a chwedlau Cymru. Gan ganolbwyntio ar ddiddordebau pobl sy’n chwarae gemau sy’n chwarae rhai ffantasi a mytholeg, byddant yn ystyried y galw am asedau newydd - gwaith celf, animeiddio, ail-adroddiadau - a ddatblygir gan awduron, artistiaid a datblygwyr gemau o Gymru. Caiff cipolwg ar ddefnyddwyr ei ddadansoddi i ddangos potensial masnachol cynnwys presennol Land of Legends i’w haddasu’n gemau fideo.