Mae Gyrru twf economaidd drwy weithgareddau clyweledol, yn archwilio maint, graddfa a chyfraniad economaidd y sector ffilm a theledu yn Rhanbarth Prifddinas Caerdydd. Mae'n dangos bod y sector cyfryngau clyweledol – sy'n cynnwys ffilm, teledu a gemau - wedi dod yn rhan allweddol o economi Cymru.

Mae adroddiad yn dangos, ar ôl degawd o dwf cryf, mae gan Gaerdydd nawr y trydydd clwstwr ffilm a theledu mwyaf yn y DU, ar ôl Llundain a Manceinion. Yn well byth, yn ôl llawer o fesurau, De Cymru yw'r clwstwr cyfryngau sydd wedi bod yn perfformio orau y tu allan i Lundain, gydag un o bob wyth swydd a grëwyd yn y DU rhwng 2015 a 2018 wedi bod ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.  

Yn seiliedig ar ein hamcangyfrifon, gallai cyllid wedi’i dargedu a chymhellion pellach i’r sector lleol i gynyddu cynhyrchiant greu twf economaidd sylweddol a gwneud Caerdydd yn ganolbwynt byd-eang ar gyfer cynhyrchu ym maes y cyfryngau o fewn y pum i ddeng mlynedd nesaf. Gallai hyn gynhyrchu Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) o £255 miliwn a bron i 2,000 o swyddi ychwanegol yn y sector cyfryngau clyweledol.”

Yn ôl yr adroddiad, mae 1,318 o gwmnïau'n weithredol yn sector y cyfryngau clyweledol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Gyda'i gilydd, cynhyrchodd y cwmnïau hyn gyfanswm trosiant blynyddol o £545 miliwn gyda £606 miliwn arall mewn gwerth ychwanegol gros wedi'i gynhyrchu'n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol.

Mae'r sector yn cyflogi 4,590 o weithwyr amser llawn yn lleol gyda 2,898 o rolau amser llawn eraill wedi'u creu i gefnogi sector y cyfryngau. Amcangyfrifir hefyd bod 2,813 o weithwyr llawrydd yn gweithio yn y rhanbarth. I gyd, mae mwy na 10,000 o bobl yn cael eu cyflogi trwy sector y cyfryngau.

Mae'r data cyflogaeth hwn, ynghyd â'i ecosystem greadigol ehangach, wedi eu cynnwys yn Atlas Economi Greadigol newydd Cymru – platfform i arddangos nerth creadigol Cymru.

Ar dydd Mawrth 30 Mawrth, cynhaliodd Clwstwr lansiad ar-lein ar gyfer Adroddiad gyrru twf economaidd drwy weithgareddau clyweledol, ar faint, graddfa a chyfraniad economaidd y diwydiannau creadigol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Fe wnaethant lansio hefyd yn y digwyddiad hwn, Atlas Economi Creadigol Cymru, platfform delweddu data newydd sbon i arddangos yr ecosystem greadigol yng Nghymru.

Awduron yr adroddiad ymchwil hwn:

Marlen Komorowski

Dr Marlen Komorowski, Dadansoddydd Effaith

Professor Justin Lewis

Yr Athro Justin Lewis, Cyfarwyddwr

Máté Fodor headshot

Máté Fodor