Gwybodaeth am Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru
Mae NDCWales, cwmni dawns cenedlaethol Cymru, yn ceisio datblygu dawns ledled y wlad. Mae’n cynnig datblygiad proffesiynol, cefnogaeth ac adnoddau i artistiaid dawns ar lefel broffesiynol ac ar lawr gwlad. Mae'r cwmni dawns gyfoes hefyd yn gweithio gyda choreograffwyr a dawnswyr ledled y byd i wneud perfformiadau byw a gwaith digidol wrth annog pobl i ddysgu, cymryd rhan ac ymgysylltu â dawns.
Archwiliodd ein prosiect Moving Layers y defnydd o realiti estynedig (AR) gyda dawns.
Roeddem am wneud prosiect ymchwil a datblygu yn seiliedig ar ddawns a oedd yn edrych ar sut y gallai technolegau realiti estynedig effeithio ar berthnasoedd a ffurfiwyd trwy ddawns. Roeddem yn teimlo y gallai wella profiadau cynulleidfa o ddawns, neu sicrhau profiadau cynulleidfa newydd o ddawns (y berthynas rhwng y gynulleidfa a'r perfformiwr). Roeddem hefyd eisiau archwilio sut y gallai perfformwyr weithio gyda'i gilydd gan ddefnyddio technoleg realiti estynedig (y berthynas rhwng y perfformiwr a'r perfformiwr).
Ymchwiliodd y prosiect hefyd i thema hunaniaeth ‘queer’.
Roedd Fearghus Ó Conchúir, ein cyfarwyddwr artistig ar y pryd, yn awyddus i weld sut y gellid archwilio hunaniaeth queer trwy ddawns gyda thechnoleg realiti estynedig. Dewisodd baentiad yng nghasgliad Oriel Gelf Manceinion fel man cychwyn ar gyfer ein hymchwil: paentiad Cyn-Raffaelaidd gan John William Waterhouse o'r enw 'Hylas and the Nymphs'. Gan dynnu ar y themâu yn y paentiad hwn, buom yn archwilio themâu ymdrwytho, denu, awydd, perygl ac atal dros amser.
Roedd gennym dîm bach a thua £15,000 o arian gan Clwstwr.
Roedd pedwar dawnsiwr llawrydd a oedd yn dawnsio mewn deuoedd ar wahanol adegau. Buom hefyd yn gweithio gyda Rob Eagle, arbenigwr technoleg greadigol. Dewisodd Rob ddefnyddio Microsoft HoloLens, clustffon gyda thechnoleg realiti estynedig er mwyn i ni arbrofi.
Cafwyd pythefnos allweddol o ymchwil a datblygu a oedd yn cynnwys pawb.
Yn ystod yr wythnos gyntaf o ymchwil a datblygu, gwnaethom ddefnyddio elfennau a oedd yn bodoli eisoes yn nhechnoleg HoloLens i gael teimlad o sut y gallai weithio gyda dawns. Pan symudodd y dawnsiwr a oedd yn gwisgo'r HoloLens, creodd meddalwedd HoloLens ddelweddau digidol yn y clustffon yn seiliedig ar y symudiad hwnnw.
Rhwng yr wythnos gyntaf a'r ail wythnos, gweithiodd Fearghus a Rob gyda dylunydd meddalwedd i greu prototeip meddalwedd realiti estynedig pwrpasol. Gwnaethant wedyn ei ddefnyddio wrth ddawnsio yn yr ail wythnos. Erbyn diwedd yr ail wythnos, roedd y delweddau a gynhyrchwyd a'r holl brofiad realiti estynedig yn llawer mwy soffistigedig ac ymatebol i'r ddawns.
Gwnaethom wahodd pobl i fod yn aelodau o'r gynulleidfa ar ddiwedd pob wythnos.
Gwnaethom ofyn i aelodau ein cynulleidfaoedd wylio perfformwyr byw a’u perfformiad wrth wisgo clustffonau HoloLens. Roedd yn caniatáu iddynt weld y ddawns wedi’i throshaenu â'r ddelweddaeth a grëwyd yn cael ei chwarae yn ôl yn y clustffonau, ac, os oeddent am wneud hynny, trin y ddelweddaeth eu hunain.
Gwnaeth hyn ennyn diddordeb y cynulleidfaoedd cyntaf, a gwnaethant sylwi ar welliant enfawr ym mherthnasedd delweddaeth realiti estynedig rhwng y sioe cyntaf a'r ail sioe. Gwnaethant wir ymgysylltu â'r hyn a welsant a'r ffordd yr oeddent yn profi'r ddelweddaeth. Roedd y lluniau realiti estynedig yn haniaethol iawn, bron fel dramâu ysgafn wedi'u hysbrydoli gan gyfuniad o'r paentiad a'r symudiadau dawns. Roedd y cyfan yn llachar a lliwgar iawn.
Un o’r pethau cynnar gwnaethom ei sylweddoli oherwydd bod dawnsio wrth wisgo clustffon yn anodd!
Roedd angen i'n dawnswyr ymgysylltu â'i gilydd. Fodd bynnag, roedd gwisgo clustffon yn gwneud y dawnswyr yn llai ymwybodol o leoliad ei gilydd yn y gofod, oherwydd diffyg golwg ymylol. Roeddent yn gallu gweld ei gilydd a'r gofod o hyd, yn wahanol i glustffonau realiti rhithwir, ond roedd yn wahanol iawn iddyn nhw fel perfformwyr. Roeddem am gynnal y cysylltiad â'r presenoldeb corfforol yn y gofod. Gwnaethant ddysgu dibynnu mwy ar sain i glywed symudiadau ei gilydd. Roedd yn ddefnyddiol profi hyn, oherwydd rydym bellach yn gwybod bod yn rhaid ystyried ymwybyddiaeth ofodol os ydym yn defnyddio realiti estynedig mewn perfformiad ffurfiol yn y dyfodol.
Gallaf weld perfformiadau fel hyn yn dod yn realiti yn y dyfodol.
Mae bellach gennym ddealltwriaeth ddyfnach o'r berthynas rhwng y perfformiwr a’r gynulleidfa a'r berthynas rhwng perfformiwr a’r perfformiwr gyda realiti estynedig. Ychwanegodd yr elfennau realiti estynedig rywbeth gwahanol i'r ddawns; maen nhw'n haen arall y gallwn ni chwarae gyda hi i gyfleu straeon trwy symud er budd y gynulleidfa.
O'r ymchwil a datblygu, mae Rob ac Fearghus yn gwybod beth maen nhw ei eisiau ac mae angen iddyn nhw ei ddatblygu i’r lefel nesaf o soffistigedigrwydd. Maen nhw’n barod i weithio gyda chwmni technoleg arbenigol i gyfuno’r datblygiadau meddalwedd realiti estynedig pwrpasol â symudiadau at ddibenion perfformiad yn y dyfodol. Byddai'n addas perfformio'r ddawns o flaen 'Hylas and the Nymphs' un diwrnod, a defnyddio gweithiau celf eraill i ysbrydoli'r profiad dawns aml-realiti hwn.
Rydym yn sylweddoli'r cyfyngiadau a ddaw yn sgil clustffonau.
Roeddem bob amser yn gwybod, er bod y clustffonau eu hunain yn ddiddorol, pe byddem am i lawer o bobl weld y ddelweddaeth yn cael ei chreu gan y dawnswyr mewn realiti estynedig yna byddai angen i ni ddod o hyd i ffordd wahanol o'i rhannu. Mae clustffonau yn ddrud, ychydig yn anghyfforddus i'w gwisgo ac mae ystyriaethau hylendid o’u defnyddio.
Mae cam nesaf ein prosiect yn ymwneud ag archwilio sut y gallem addasu'r dechnoleg i system lle mae pobl yn profi'r ddelweddaeth mewn amser real ar eu tabledi neu eu ffonau eu hunain, nid mewn clustffonau. Byddai'n golygu y gallai pobl ddewis sut maen nhw'n profi'r ddawns hefyd; gallent wylio dawnswyr proffesiynol yn symud mewn ffordd a drefnwyd sy'n adrodd stori, neu gallent wella eu profiad trwy ychwanegu at y realiti y maen nhw’n ei weld trwy eu ffôn neu dabled.
Yn eithaf annisgwyl, mae'r prosiect wedi arwain at symudiad gwirioneddol ddwys tuag at ddigidol.
Rydym bellach yn gweld ac yn deall y potensial ar gyfer datblygu cynulleidfa yn y maes hwn. Rydym yn gweithio gyda chynhyrchydd digidol i ddatblygu ein gwaith mewn ffyrdd eraill sy'n manteisio i’r eithaf ar wahanol ddulliau digidol. Nid wyf yn credu y byddem wedi cyrraedd fan hyn mor gyflym ag rydym, oni bai am y profiad hwn.