Mae cynaliadwyedd amgylcheddol yn fater heriol o hyd i sector ynni a theithio dwys megis y sector ffilm a theledu.
Er gwaethaf y nifer cynyddol o gamau gweithredu penodol sy'n mynd i'r afael ag effaith amgylcheddol sector y sgrîn, ar hyn o bryd mae angen dull mwy holistaidd ac integredig o’i ddatblygu’n sector gwyrddach.
Nod y briff polisi hwn yw mynd i'r afael â chynaliadwyedd amgylcheddol yn sector sgrîn Cymru drwy lens penodol arloesedd gwyrdd. Rydym yn diffinio arloesedd gwyrdd fel y prosesau sy’n creu cynyrchiadau, gwasanaethau a thechnolegau newydd, a chanddynt hefyd y nod o leihau effeithiau amgylcheddol negyddol.
Mae'r briff yn archwilio'r cyfleoedd a'r heriau sy'n gysylltiedig ag arloesedd gwyrdd yn y sector sgrîn yng Nghymru, yn ogystal â sut y gall arloesedd gwyrdd greu newid effeithiol tuag at economi sero-net. Wrth wneud hynny, mae'n ystyried sut y gall ymchwil a datblygu, sef y llwybr at arloesedd gwyrdd, gefnogi dull mwy holistaidd o fynd i'r afael ag ôl troed amgylcheddol y sector.
Yn y briff rydym yn rhoi tystiolaeth o amrywiaeth o astudiaethau ac adroddiadau a gyhoeddwyd gan sefydliadau megis Sefydliad Ffilmiau Prydain (BFI), Llywodraeth Cymru, BAFTA, a Clwstwr sef y rhaglen flaenllaw sy'n rhoi ymchwil a datblygu wrth wraidd y diwydiant sgrîn a newyddion yng Nghymru. Yn seiliedig ar yr adolygiad hwn, rydym yn cynnig fframwaith estynedig ar gyfer ystyried arloesedd gwyrdd yn y sector sgrîn, ac yn ei gefnogi drwy enghreifftiau sy’n astudiaethau achos o brosiectau a ariennir gan Clwstwr.
Dywedodd Dr Ruxandra Lupu, Cydymaith Ymchwil Clwstwr: "Mae ein canfyddiadau'n cadarnhau bod arloesedd gwyrdd wedi dod yn ddull ymarferol o ddatblygu atebion holistaidd ar gyfer sector y sgrîn sy'n creu manteision cystadleuol effeithiol.
"Fodd bynnag, maent hefyd yn amlygu’r angen am ragor o raglenni ariannu wedi'u teilwra sy'n cyfateb i gymhlethdodau prosesau ymchwil a datblygu, ac sydd wedi'u teilwra hefyd i anghenion sector sy’n llawn amrywiaeth ac sy'n cael ei yrru gan brosiectau yn bennaf. Daw'r briff i ben drwy gydnabod yr angen i roi sylw pellach i'r heriau cynhenid sy'n gysylltiedig â'r diffiniadau rhy dechnolegol hynny o ymchwil a datblygu, a'r ffordd y maent yn llunio diwylliant arloesedd diwydiant y sgrîn."
Mae mentrau megis Bargen Newydd Sgrîn (cynllun trawsnewid ar gyfer dyfodol di-garbon, di-wastraff i'r diwydiant sgrîn) a media.cymru (rhaglen ddilynol Clwstwr), yn bwysig gan eu bod yn anelu at wneud cynnydd pellach yn hyn o beth.
Gallwch lawrlwytho’r adroddiad Arloesi Gwyrdd ar gyfer Sector y Sgrîn yma.
Greening the Audiovisual Sector: Towards a New Understanding through Innovation Practices in Wales and
Beyond gan Dr Ruxandra Lupu, Dr Marlen Komorowski, yr Athro Justin Lewis, Cynhyrchydd Gregory Mothersdale a'r Athro Sara Pepper o JOMEC, Prifysgol Caerdydd, ei gyhoeddi yn MDPI - Cynaliadwyedd, fel rhan o'r Rhifyn Arbennig - The Creative and Cultural Industries towards Sustainability and Recovery.