Barn Cyd-Ymchwilydd Clwstwr, Rich Hurford, ar sut mae technoleg gemau yn chwyldroi’r modd y cynhyrchir ffilmiau a theledu.

Un o’r themâu cryf sydd wedi dod i’r amlwg o fewn y garfan Clwstwr gyntaf o brosiectau a ariennir yw croesi llwybrau rhwng y diwydiannau ffilm, teledu a gemau gan gymysgu’r prosesau, crefftau, technoleg a’r dulliau storïa sy’n perthyn i’r ddau fyd er mwyn creu canlyniadau rhyfeddol.

Fel Cyd-Ymchwilydd Clwstwr cefais y fraint o allu gweithio’n agos â sawl un o’r prosiectau a gweld drosof fi fy hunan yr effaith mae’r ymchwil a datblygu yn ei chael. 

Mae sawl prosiect yn archwilio sut mae defnyddio technoleg gemau er mwyn gwella’r ffordd y cynhyrchir ffilmiau a theledu. Mae’r rhain yn amrywio o biblinellau amser real ar gyfer animeiddio 3D, VFX amser real ar y set, defnyddio teclynnau VR ar gyfer rhag-ddelweddu, a defnyddio sain amsonig (360°).

Mae prosiectau Clwstwr eraill yn defnyddio technegau storïa rhyngweithiol er mwyn creu profiadau dyfnach a mwy atyniadol ar gyfer cynulleidfaoedd/defnyddwyr, sy’n cynnwys gemau ar gyfer ymwybyddiaeth/hyfforddiant iechyd meddwl, storia hybrid, lliniaru poen trwy ddefnyddio VR, technoleg drochol fel rhan o berfformiad byw a rhaglenni dogfen, ffilmiau a storïa rhyngweithiol.

Mae hyn yn debygol o fod yn faes allweddol ar gyfer datblygu yn y dyfodol gyda’r diwydiant sgrîn yng Nghymru mewn safle da i fanteisio ar y technolegau hyn.

Gwelwyd hyn yng nghynhyrchiad y gyfres BBC/HBO ddiweddar, His Dark Materials, a gafodd ei ffilmio yn bennaf yng Nghymru gan Bad Wolf Studios gyda rhag-ddelweddu, dylunio cynhyrchu a chyfarwyddo VRX gan Painting Practice gan ddefnyddio technegau cynhyrchu rhithwir a grëwyd gan eu tîm yng Nghaerdydd, a llawer ohonynt yn raddedigion yr Ysgol Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol De Cymru.

Prosiect lleol arall sy’n archwilio storïa trochol yw Audience of the Future Demonstrator sy’n edrych ar y modd y mae adrodd storïau trochol rhyngweithiol gan ddefnyddio ystod o dechnolegau, rhai ohonynt yn draddodiadol ac eraill yn arloesol, er mwyn creu profiad cymysg symbylgar.

Cynhaliwyd dosbarth feistr gan Brifysgol De Cymru ar gyfer myfyrwyr tair prifysgol Caerdydd a elwir yn Ddyfodolau’r Sgrîn ddydd Mercher, 5 Chwefror. Yn ystod y digwyddiad Dyfodolau’r Sgrîn trafododd sawl prosiect Clwstwr eu gwaith hyd yn hyn: Painting Practice, Cloth Cat Animation, Martha Stone Productions a Gorilla.