Y newyddiadurwr Shirish Kulkarni sy'n rhannu ei ganfyddiadau o'r prosiect ymchwil a datblygu, Adrodd y Newyddion drwy Newyddiaduraeth Fodiwlaidd

Pe bawn i'n gofyn i chi ddyfalu'r cysylltiad rhwng Matty Healy (prif leisydd The 1975), Jeff Jarvis (Athro Newyddiaduraeth yn City University Efrog Newydd a meddyliwr blaenllaw mewn newyddion ar-lein) a Denise Welch (actores Coronation Street a chyflwynydd Loose Women), efallai y byddech yn cael trafferth.

Yn rhyfedd ddigon, dyma dri yn unig o blith miloedd o bobl sydd wedi darllen, cymeradwyo a rhannu fy Ymchwil Clwstwr ar Adrodd y Newyddion.
 
Pan ddechreuais i weithio ar y prosiect doedd gen i ddim syniad beth oeddwn i am ei ddarganfod, neu a fyddai gan unrhyw un ddiddordeb, felly mae wedi bod yn wych gweld pa mor eang mae'r syniadau wedi teithio a'r ehangder o ddiddordeb yn y gwaith.

Rwy'n credu bod hyn yn dweud nifer o bethau wrthym ni. Yn gyntaf, ceir archwaeth gwirioneddol am newyddion sy'n wahanol ac yn well. Mewn profion a wnaethom ni ar y prototeipiau, roedd defnyddwyr yn eu hoffi llawer yn fwy na'r erthyglau newyddion maen nhw'n eu darllen ar hyn o bryd. Yn ail, mae treulio amser yn holi beth rydym ni'n ei wneud, pam, ac a yw'n gweithio, yn hanfodol ym mhob diwydiant - y broblem mewn newyddiaduraeth yw nad ydym ni'n ei wneud yn aml. Yn drydydd, mewn diwydiant sy'n canoli'n bennaf ar Lundain, mae'n gliriach nag erioed fod gan y rheini ohonom sy'n gweithio yn y sector creadigol yn ne Cymru y dalent, y dychymyg a'r dycnwch i wneud gwahaniaeth ar y llwyfan cenedlaethol a rhyngwladol.

Mae'n glir fod y nod o sbarduno a chefnogi diwylliant ymchwil yn y sector creadigol eisoes yn profi'n llwyddiannus ac yn dwyn ffrwyth. Mae ymchwil yn ei hanfod yn broses greadigol wrth gwrs. I mi bu'n ymwneud â throi'r farn gyffredin ar ei phen a syntheseiddio syniadau radical i greu rhywbeth sy'n argyhoeddi ac yn ysgogi'r meddwl.  Onid dyna yw diben y gorau mewn cerddoriaeth, theatr, ffilm neu ddawns?

Rwy’n hynod ddiolchgar am y cyfleoedd mae Clwstwr wedi’u rhoi imi. Anaml y caiff gweithwyr llawrydd y cyfle i ymgeisio am gyllid fel hyn, ond mae rhai o'r prosiectau mwyaf diddorol ac uchel eu heffaith hyd yma wedi'u cyflwyno a'u cyflawni gan weithwyr llawrydd. Yn wir, y fraint fwyaf o wneud y prosiect hwn fu cael cyfarfod a dysgu gan gynifer o bobl ddifyr ar draws y diwydiannau creadigol yn y rhanbarth.

Gobeithio mai un o'r pethau rydym ni wedi'i ddysgu o ddigwyddiadau'r misoedd diwethaf yw bod deall a rhannu amrywiaeth meddwl a phrofiad yn hanfodol os ydym ni am greu diwydiannau sydd mewn gwirionedd yn adlewyrchu ac yn gwerthfawrogi pawb yn ein cymdeithas.  Ni fyddai fy ngwaith wedi digwydd heb gefnogaeth Clwstwr, ond rwy'n falch ei fod eisoes yn cael effaith ar newyddiaduraeth yn ehangach. Mae pethau tebyg yn wir am lawer o'r prosiectau a gyllidwyd ac rwyf i'n edrych ymlaen at weld effaith y syniadau hyn dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.