Nod y Prosiect

Mae dros 83% o boblogaeth y DU, a 55% o boblogaeth y byd, yn byw mewn ardaloedd trefol. Uchelgais y prosiect yw datblygu platfformau arloesol ac economaidd-gynaliadwy i sicrhau ymgysylltu dwyffordd rhwng y cyhoedd a’r sawl sy’n gyfrifol am lunio’r amgylchedd trefol; i’w gwneud yn broses gynhwysol ac nid eithriol. Bydd pwyslais ar ddefnyddio egin dechnoleg i adeiladu ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd. Mae’r arweinydd prosiect Jonny Campbell yn wneuthurwr ffilmiau ac yn gynhyrchydd creadigol sydd â chefndir ym maes dylunio pensaernïol.

Jonny Campbell headshot