Nod y Prosiect
Mae'r prosiect hwn yn trin a thrafod sut gall ffilm ddod yn adnodd cynhwysol i gynulleidfaoedd byddar a phobl â nam ar eu golwg gael mynediad at berfformiad, gan ddefnyddio dawns fel y pwnc. Bydd y broses yn cynnwys cydweithredu â'r cymunedau hynny i ddeall profiadau byw cyfredol, a'u cynnwys i lunio amrywiadau o olygiadau a gasglwyd o'r un llyfrgell o luniau, a ddyluniwyd i ymchwilio i anghenion penodol cynulleidfaoedd a'u diwallu. Gobeithiwn, trwy archwilio cyfansoddiad a golygu, a rhoi asiantaeth uniongyrchol i'r unigolion hynny i effeithio ar yr ymchwil, y byddwn yn gallu gwasanaethu grwpiau ymylol yn well yn fwy dilys ac effeithiol.