Nod y Prosiect

Mae'r diwydiant animeiddio yn tyfu flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac eto mae'n anoddach fyth dod o hyd i dalent a all arbenigo ym maes animeiddio 2D. Mae'r offer yn ddrud ac yn cynnig llai a llai o'r datblygiadau arloesol sydd wedi rhoi cymaint o hwb i faes animeiddio 3D. Rydym yn gweld cyfle nid yn unig i newid y ffordd y caiff animeiddio 2D ei greu, ond hefyd i bontio'r bwlch rhwng meddalwedd animeiddio a pheiriannau gemau. Bydd darpar animeiddwyr, a oedd yn credu bod y diwydiant y tu hwnt i'w cyrraedd, yn cael cyfle i ddysgu sut mae defnyddio'r un offer a allai chwyldroi'r sector cyfan.