Nod y Prosiect

Bydd prosiect Sugar Creative, 'Arall', yn cyfuno cynnwys creadigol â realiti estynedig arloesol i alluogi ymwelwyr i weld ac ymgysylltu ag ystod o ddehongliadau ac ymatebion personol i wrthrychau yng nghasgliad Amgueddfa Cymru. Bydd y cyfoethogi hwn o’r casgliad yn tynnu ar brofiadau byw sy'n ffurfio Cymru amrywiol fodern, gan ymgorffori a chofleidio ystyron sy’n newid sy'n sail i wrthrychau hanesyddol a diwylliannol er mwyn creu empathi. Mae cyflwyno'r ymateb byw hwn i hanes yn rhan o amcan Amgueddfa Cymru o greu casgliad sy'n esblygu gan roi sylw i leisiau newydd.

Sugar Creative Logo