Nod y Prosiect
Mae Caz Westwater yn artist perfformiad gyda gyrfa o 20 mlynedd yn meysydd theatr, ffilm a chelfyddydau cyfranogol, sy’n defnyddio dulliau ymdrochol o gynnwys cynulleidfaoedd mewn naratifau arbrofol. Bydd ei phrosiect Clwstwr ar y cyd â’r Amgueddfa Lechi Genedlaethol, yr artist Sharon Magill a’r technolegydd creadigol James Taylor. Gyda’i gilydd, byddant yn datblygu braslun cysyniad i Cerddwyr Treftadaeth, sef profiad dysgu digidol (cymysgedd rhwng treftadaeth Gymreig, Pokémon Go a Chymdeithas y Cerddwyr!). Bydd y prosiect yn astudiaeth o ddichonoldeb sy’n ymchwilio i ‘daflunio drwy’r ffôn’; datblygu taith gerdded dreftadaeth esgus, ac awydd cynulleidfaoedd i gael profiad o’r fath.