Nod y Prosiect

Ffordd newydd o edrych ar eich amgylchedd rhithwir a go iawn, a’i brofi. Mae ParadropVR eisoes yn gwthio ffiniau antur a realiti gyda'i brofiadau hedfan realiti rhithwir dan ganopi.  Wrth hedfan ac edrych i lawr o’r awyr, mae gan y rhai sy’n cymryd rhan bersbectif unigryw i archwilio eu hamgylchedd ohono.  Nawr, hoffem ni edrych ar sut y gallwn ddefnyddio gemeiddio ac adrodd straeon yn ein profiadau i annog pobl i gael gwell dealltwriaeth, gofal, gwerthfawrogiad a chyfranogiad yn eu hamgylcheddau yn y byd go iawn.  Ein nod yw creu paradeim rhithwir.  Ffordd newydd o edrych ar bethau.Byddwn yn defnyddio'r cyllid i ymchwilio, dylunio a gweithredu elfennau naratif a gemeiddio MVP y gallwn eu rhoi ar waith yn ein cyfarpar newydd sy'n agor yn fuan yng Nghymru, yn hedfan dros fynyddoedd Cymru. Byddwn hefyd yn cymryd yr hyn rydym wedi dysgu i'w cyflwyno wedyn i strategaeth datblygu cynnwys ehangach Frontgrid.

Frontgrid team composite