Nod y Prosiect

Mae Small and Clever Productions wedi'i leoli yng Nghaerdydd ac wedi bod yn gwneud sioeau teledu ers 2013. Yn ddiweddar gwnaethom gyfres comedi ar gyfer BBC Cymru, a gwnaed rhan helaeth ohoni gan ddefnyddio technegau Cynhyrchu Rhithwir. Mae Cynhyrchu Rhithwir yn dal i fod yn faes sy'n datblygu, ond gwelsom ei fod yn cynnig ffordd cyllideb isel a charbon isel o wneud comedi, yn rhydd o gyfyngiadau ffilmio ar leoliad neu setiau ffilmio mawr. Ein huchelgais yw gwella ansawdd, dibynadwyedd a rhwyddineb ei ddefnydd, fel y gallwn gynnig Cynhyrchu Rhithwir fel adnodd safonol ar gyfer gwneuthurwyr comedi ar ffurf fer a genres eraill. 

Small and Clever team shot