Nod y Prosiect

CAF LogoBydd Gŵyl Animeiddio Caerdydd yn archwilio sut i ddatblygu gwasanaeth i helpu diwydiannau animeiddio, gemau ac ôl-gynhyrchu Cymru i gyflawni Sero Net erbyn 2030 drwy gyfweliadau manwl, dadansoddi ôl troed carbon, gweithdai cyd-greu ac arolygon ymgynghori cyhoeddus/preifat. Bydd y prosiect yn ceisio atebion pendant i'r cwestiynau a'r rhwystrau a ddarganfuwyd drwy eu prosiect Ymchwil a Datblygu Hadau Clwstwr o 2020 gan arwain at fap llwybr i gyrraedd sero net drwy ddatblygu gwasanaeth newydd sy'n economaidd gynaliadwy.

Mae Diwydiant Animeiddio Sero Net yn brosiect gan Her Cymru Werdd. I gael rhagor o wybodaeth am effaith yr Her hon, cliciwch yma.