Nod y Prosiect
Gan ddefnyddio golwg cyfrifiadurol deallusrwydd artiffisial, mae Agile Kinetic wedi datblygu dull rhyngweithiol, sy’n aros patent, i reoli gwellhad o lawdriniaeth orthopedig, yn seiliedig ar wybodaeth gan gleifion a gafwyd o bell drwy ffôn clyfar. Bydd y prosiect hwn yn ymchwilio ac yn profi nifer o ddefnyddiau i dechnoleg i wneud y rhyngweithiadau mor syml â phosibl i gleifion. Mae Agile Kinetic hefyd am ddeall sut y gallai elfennau o ddylunio gemau gael eu defnyddio i gynnwys defnyddwyr yn ehangach a gwella canlyniadau hirdymor i gleifion. Bydd y prosiect yn gweithio gyda dylunwyr gemau a’r asiantaeth greadigol Big Lemon i ystyried technegau y gellir eu defnyddio i hybu’r daith at wella.
