Nod y Prosiect
Ehangu IP a Brandiau drwy bibell rithwir:
Mae prosiect Bumpybox yn canolbwyntio ar ehangu eu pibell ddarlledu lorweddol bresennol yn ‘bibell brand’ rithiol fwy amrywiol sy’n ein galluogi i greu mwy o gynnwys i blatfformau gwahanol am bris rhatach, gan ar yr un pryd weithio ar gynhyrchu cyfresi.
Ehangu IP a Brandiau trwy reoli asedau a drefnir gan fetadata:
Gan ehangu ar ein hastudiaeth 2020, mae Bumpybox yn bwriadu cynllunio system rheoli asedau sy'n cael ei gyrru gan fetadata sy’n cael eu recordio pan fydd tasg neu ased animeiddio yn cael eu cyhoeddi. Nod cyffredinol hyn yw gallu coladu'r holl ddeunyddiau defnyddiol i gronfa ddata y gellir ei threfnu a'i chwilio mewn ffordd ystyrlon. Yna gellir defnyddio hwn i greu cynnwys newydd yn gyflym ar gyfer ein brandiau a'n prosiectau presennol fel My Petsaurus.