Bumpybox 
Cwmni animeiddio yng Nghaerdydd yw Bumpybox, a sefydlwyd yn 2011 gan Sam Wright, Leon Dexter a Toke Jepsen. Prif brosiect Bumpybox ers 2016 yw My Petsaurus, cyfres animeiddiedig a ddarlledir ar CBeebies.  

Mae Bumpybox yn fwyaf adnabyddus am animeiddio triceratops anwes. 

Ar hyn o bryd ein prif ffynhonnell incwm a ffocws yw My Petsaurus, rhaglen deledu i blant sy'n cyfuno ffilmio byw ac animeiddio yn defnyddio cyfosod CGI. Cyflwynon ni'r cysyniad - bywyd merch ifanc a'i deinosor anwes - i'r BBC, sydd bellach yn ei ddarlledu ar CBeebies. Hyd yma, rydyn ni wedi gwneud bron i 50 pennod dros bum cyfres a llond llaw o raglenni unigol arbennig.  

Ni sy'n berchen ar eiddo deallusol My Petsaurus, ond mae'n anodd creu mwy o arian ohono ar wahân i'r sioe ei hun. 

Er bod ein cyfres yn eithaf bach, mae ganddi ddosbarthwr a chytundeb darlledu gyda'r sianel deledu fwyaf i blant ifanc. Hoffen ni wneud arian o'n heiddo deallusol drwy bethau fel brandio, trwyddedu a nwyddau, ond does gennym ni ddim digon o enw eto i sicrhau cytundebau o'r fath.  

Er mwyn meithrin cefnogaeth i My Petsaurus, siaradon ni gydag ymgynghorwyr brandio a chyfryngau cymdeithasol am ein sefyllfa. Helpon nhw ni i sylweddoli bod angen i ni greu cyffro ar y cyfryngau cymdeithasol a denu sylw unrhyw drwyddedwyr posib. Gan mai'r BBC sydd â'r hawl i rannu cymaint o My Petsaurus, allwn ni ddim uwchlwytho'r penodau i YouTube i gyfeirio pobl at ein heiddo deallusol.  Mae angen i ni greu cynnwys ychwanegol i'w rannu ar y cyfryngau cymdeithasol, i gael rhieni i siarad am y gyfres a chael plant i ddod o hyd i ddarnau ychwanegol a chlipiau ar-lein mewn llefydd fel YouTube. Os gallen ni gael mwy o bobl y tu ôl i'r brand, gallen ni ddangos i ddarpar bartneriaid ei fod yn hyfyw. 

Fel cwmni bach, rydyn ni am ddod o hyd i ffyrdd o arloesi a chyflymu'r broses animeiddio. 

Mae animeiddio yn cymryd cymaint o amser. Er enghraifft, dechreuodd y gyfres o My Petsaurus rydyn ni'n bwriadu ei chwblhau ym mis Medi 2021 ei chyfnod cyn-gynhyrchu yn ôl ym mis Ionawr 2020. Mae cymaint o’n hamser ni’n mynd ar animeiddio'r penodau, mae'n yn ei wneud yn anodd dod o hyd i amser i ailddefnyddio'r deunyddiau sy'n sgil-gynnyrch y sioe neu greu asedau eraill.  

Galluogodd cyllid Clwstwr ni i gynnal astudiaeth dichonolrwydd ar sut i wella ein heffeithlonrwydd.  

Cawsom gyllid sbarduno gan Clwstwr i ymchwilio i ffyrdd posibl y gallen ni wneud ein prosesau'n fwy effeithlon yn defnyddio ein hadnoddau cyfyngedig, a sgil-effaith hyn fyddai adeiladu ein henw i wella ein cyfle o sicrhau cytundebau trwyddedu. Er mwyn mireinio ffocws yr astudiaeth dichonolrwydd, nododd ein cyfarwyddwr technegol Toke y meysydd oedd yn ein harafu. Nid meysydd creadigol oedd y rhain, ond roedden nhw'n mynd â llawer o amser. Penderfynon ni ar dri chwestiwn i'w hateb, pob un yn ymdrin â maes penodol o aneffeithlonrwydd. 

Y cwestiwn cyntaf oedd: Pa mor ddefnyddiol allai technoleg peiriant gemau fod i sioeau fel My Petsaurus?  

Roedden ni am weld a allai technoleg o'r fath ein helpu i greu mwy o gynnwys o'r hyn roedden ni eisoes yn ei wneud, neu a allai ei wneud yn haws i ni ddewis cynnwys o'n harchif. Edrychon ni ar ddichonolrwydd defnyddio Unreal Engine a gweld y byddai'n gweithio'n dda ar gyfer rhai pethau. Ceir golygydd dilyniant, a allai adael i ni osod pennod o animeiddio yn fwy effeithlon. Hefyd ceir offerynnau a allai fod yn ddefnyddiol ar gyfer pethau fel gosod gwaith camera, dilyniant ac ambell i dasg eithaf diflas. Rydyn ni'n hoffi sut mae'r cyfan yn digwydd ar unwaith, ac mae hyn yn bendant yn rhywbeth y gallen ni ei ddefnyddio. 

Y peth arall y buom ni'n ei ystyried oedd a allen ni wneud ffilmiau byr wedi'u hanimeiddio, gêm fideo syml neu fath arall o gynnwys deilliedig gydag Unreal. Roedd popeth yn edrych yn bosibl, ond roedd ambell beth oedd angen ei ystyried. Mae gennym ni bethau cymharol gymhleth ar ein rigiau animeiddio nad ydyn nhw'n trosglwyddo i Unreal. Hefyd, mae angen i ni wneud yn siŵr y gallwn fynd o Maya, sef y meddalwedd rydyn ni'n ei ddefnyddio i animeiddio, i Unreal ac yn ôl.  

Yr ail gwestiwn oedd: Sut allwn ni gyflymu'r amser mae'n ei gymryd i lunio golygiad i'w wylio’n ôl? 

Roedd rhan helaeth o'n hadroddiad yn trafod pa mor hirwyntog yw ein system ar gyfer llunio golygiadau. Yn nodweddiadol, mae golygydd y sioe, Gorilla, yn rhoi'r golygiad i ni.  Yna, rydyn ni'n ei amlyncu yn ein meddalwedd rheoli, lle rydyn ni'n tynnu'r holl siots gyda'r deinosor ynddyn nhw, animeiddio'r rhain ac yna ei allforio fel fideo wedi'i gwblhau. 

Mae'n system hynod o lafurus, sy'n cynnwys agor meddalwedd golygu, dod â phob siot a sain unigol i mewn ac yna eu hallforio, a all gymryd o leiaf awr ar gyfer fideo dau funud. Os ydych chi wedyn yn sylweddoli wrth wylio'n ôl bod siot ar goll neu rywbeth ddim yn iawn yn y ffordd mae wedi'i roi at ei gilydd, rhaid i chi fynd yn ôl i'r dechrau.  

Fe wyddom fod gan Netflix ac Amazon feddalwedd perchnogol sy'n caniatáu iddyn nhw gymryd dau fideo gyda'r un codec a'u cyfuno, heb angen defnyddio unrhyw feddalwedd arall. Ond doedden ni ddim yn gallu dod o hyd i'r math hwn o beth ar lefel annibynnol. Y meddalwedd agosaf i ni ei ganfod yw FFmpeg, sy'n troi dilyniannau o ddelweddau'n fideos. 

Roedd Toke am ddod o hyd i ffordd i wneud i FFmpeg gyfuno fideos niferus, ond roedd yn creu gwallau ac yn colli fframiau. Felly cyflwynodd adroddiad i FFmpeg a thrwy siarad gyda nhw, daeth o hyd i ffordd i ddatrys y broblem sy'n golygu ein bod yn gallu ei wneud bellach. Roedd yn teimlo fel ymchwil a datblygu ar waith! Mae hyn yn golygu y gallwn ddewis golygfeydd neu benodau penodol a'u cyfuno i greu dilyniant neu fideo hirach, sy'n ddefnyddiol iawn gan ei fod yn ein helpu i greu cynnwys fideo newydd yn gyflym. Yn ei dro, dylai hyn ein helpu i adeiladu ein cynulleidfa a gyrru traffig at ein heiddo deallusol. 

Y trydydd cwestiwn oedd: Sut allwn ni wneud cyfosod a rendro'n fwy effeithlon?  

I ateb y cwestiwn hwn, datblygodd Toke gam newid yn ein ffrwd gwaith: rhag-gyfosod. Mae'n gadael i ni wylio animeiddiad cyn iddo gael ei rendro mewn meddalwedd cyfosod. Rwy'n gwybod nad yw hyn efallai'n swnio'n arbennig o gyffrous, ond mae'n bwysig iawn i ni.  Rydyn ni'n treulio llawer o oriau cyfrifiadura'n goleuo a rendro'r olygfa cyn iddi gael ei chyfosod. Os oes gofyn i ni newid pethau ar y cam hwn, rhaid i ni fynd yn ôl i'r cam animeiddio i drin y cynnwys, ail-wneud y goleuo a'r sain, ei rendro eto ac yna ei anfon i'w gyfosod i gael ei adolygu.  

Roedd y datrysiad yn gymharol hawdd. Yn sylfaenol, rydyn ni nawr yn gallu allforio rhagolwg o ddilyniant o ddelweddau o’r animeiddiad gyda fformatio y gall y meddalwedd cyfosod ei ddarllen, sy'n golygu nad oes rhaid i ni aros am oriau i rendro pethau y gallai fod angen eu newid. Rydyn ni'n ei ddefnyddio ar hyn o bryd ar My Petsaurus; mae wedi arbed llawer o amser i ni ac atal camgymeriadau bach yn y fersiynau sydd wedi'u rendro, sydd wedi rhyddhau amser i ni wneud pethau eraill.  

Mae goresgyn rhwystrau mawr, diolch i Clwstwr, wedi'n gwneud yn awyddus i barhau gydag ymchwil a datblygu. 

Mae arian Clwstwr wedi ein galluogi i wneud ymchwil a datblygu pwysig ochr yn ochr â My Petsaurus. Roedd rhywun yn gallu cymryd cam yn ôl o My Petsaurus a gweithio ar brosiect Clwstwr, yna ddod yn ôl gyda rhywbeth y gallen ni roi cynnig arno ar y gyfres. Mewn rhai achosion, mae ein heffeithlonrwydd wedi gwella i'r graddau y gallwn dderbyn mwy o waith. Cwblhaon ni dair pennod arbennig o My Petsaurus mewn pryd i'r Nadolig diolch i well effeithlonrwydd. 

Hoffwn i wneud rhywbeth tebyg eto, gan ganolbwyntio efallai ar sut rydyn ni'n archifo ein gwaith er mwyn dod o hyd iddo yn hawdd gyda thagiau. Er enghraifft, pe bai angen siot o Topsy y triceratops yn neidio, gallwn i chwilio'r archif ac ailddefnyddio animeiddiad blaenorol. 

Mae gwella effeithlonrwydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr drwy roi pocedi o amser lle gallwn ni ryddhau pobl o'r cynhyrchiad. Mae'n golygu ei bod yn fwy posibl i rywun wneud gwaith ar y cyfryngau cymdeithasol neu fideo i YouTube neu lunio cynnig i gwmni teganau, er enghraifft. Dros amser, bydd y pethau hyn yn ein helpu i dyfu fel cwmni. Ac ochr yn ochr â'n presenoldeb cynyddol ar y cyfryngau cymdeithasol, gall hynny ond fod yn beth da i ddyfodol Bumpybox.