Nod y Prosiect

Bwriad y prosiect yw i ddatblygu adran democratiaeth ein gwefan newyddion Golwg360, gan anelu’n arbennig at bobl ifanc o 16 oed sy’n pleidleisio am y tro cyntaf. Byddwn yn casglu gwybodaeth ynglŷn â sut mae pobl ifanc yn ymwneud â gwleidyddiaeth a’r newyddion ar hyn o bryd, a darganfod pa faterion sy’n bwysig iddyn nhw gan weithio o fewn ardaloedd penodol  Arfon, Ceredigion a Chaerdydd yn y lle cyntaf. Er bod y prosiect cychwynnol yn canolbwyntio ar bobl ifanc sy’n pleidleisio am y tro cyntaf, ac Etholiad 2021 yn benodol, y nod hirdymor fyddai datbygu gwasanaeth newyddion ehangach i blant a phobl ifanc. 

Golwg team members photo montage - includes headshots of Owain, Lowri, Garmon, Iwan and Sian