Nod y Prosiect

Severn Screen logoBydd y prosiect hwn gan Severn Screen yn darparu dadansoddiad manwl o'r technegau gwneud ffilmiau cynaliadwy a ddatblygwyd wrth wneud Havoc, gan adeiladu ar y momentwm a grëwyd gan gynhyrchiad arloesol Gareth Evans i Netflix, ac helpu i ymgorffori dysgu a systemau newydd ar gyfer cynyrchiadau yn y dyfodol (mawr a bach ).

Bydd y prosiect yn cyflwyno dadansoddiad estynedig o’r data a recordiwyd ar Havoc gan Stiward Amgylcheddol amser llawn y cynhyrchiad Tilly Ashton - gan gofnodi’r straeon pwysig o gynaliadwyedd llwyddiannus, ynghyd â nodi heriau a chyfleoedd ar gyfer y dyfodol.

Prosiect gan Her Cymru Werdd yw Manteisio ar Havoc. I gael rhagor o wybodaeth am effaith yr Her hon, cliciwch yma.