Nod y Prosiect
Bydd prosiect Taking Flight Theatre yn ystyried ac yn datblygu ffyrdd posibl newydd o adeiladu cynnwys theatr rhithwir sy’n rhyngweithiol ac yn ysgogi’r synhwyrau, y gall ein cynulleidfaoedd mwyaf ymylol ac wedi’u hesgeuluso fanteisio arnynt. Bydd yn ceisio ffyrdd newydd o ddefnyddio meddalwedd sydd eisoes yn bodoli i sicrhau bod mynediad yn rhan sylfaenol o gynnwys. Byddant yn datblygu dewis o adnoddau a dulliau y gellir eu defnyddio yn y dyfodol gennym ni a’n partneriaid, ond hefyd gan sefydliadau theatr/celfyddydol sy’n ceisio gwasanaethu cynulleidfaoedd ymylol.
