Nod y Prosiect

Sut allai cyfryngau’r sgrîn alluogi pobl i ymgysylltu’n well â’u hamgylchedd adeiledig a chyfrannu’n ystyrlon at ei ddyluniad?

Mae dros 83% o boblogaeth y DU, a 55% o boblogaeth y byd, yn byw mewn ardaloedd trefol. Nod y prosiect yw datblygu platfformau arloesol ac economaidd gynaliadwy ar gyfer ymgysylltu dwy ffordd rhwng y cyhoedd a'r rhai sy'n gyfrifol am lunio ein hamgylchedd adeiledig; ei gwneud yn broses gynhwysol, nid ecsgliwsif, a defnyddio adrodd straeon amlgyfrwng fel modd o rannu gwybodaeth leol.

Mae arweinydd y prosiect, Jonny Campbell, yn wneuthurwr ffilmiau ac yn gynhyrchydd creadigol sydd â chefndir ym maes dylunio pensaernïol.