Nod y Prosiect

Severn Screen logo

 

Ar hyn o bryd, mae Severn Screen wrthi'n datblygu prosiectau ar sail genre ar gyfer ffilmiau a’r teledu, sy'n addas i'w haddasu ar gyfer platfformau eraill. Mae'r farchnad gemau yn enwedig yn faes allweddol ar gyfer twf yn y dyfodol. Mae'r prosiect hwn yn astudiaeth dichonoldeb ymchwil a datblygiad i brofi'r ffordd orau o addasu prosesau datblygu presennol er mwyn ymestyn cyrhaeddiad eiddo deallusol y presennol, a'r dyfodol, i gynnwys ymelwa'n aflinol/rhyngweithiol at ddibenion gemau.