Nod y Prosiect

Allwn ni wneud byd bach yn FAWR? Rydyn ni, Yeti Television am ddatblygu pecyn i ffilmio person o faint go iawn mewn byd go iawn ar raddfa fach. Y pwynt hollbwysig yw ein bod ni am i'r camera symud gyda’r person: ei ddilyn, ffilmio’r hyn y mae’n ei weld a datgelu manylion wrth iddo symud o gwmpas/rhyngweithio â’i leoliadau bach. Drwy ddefnyddio technoleg, byddwn ni’n crebachu pobl i faint lle gallan nhw grwydro o gwmpas y mannau lleiaf oll – o ystafell yn nhŷ dol i grac yn y palmant. ‘The Borrowers’ go iawn y byddan nhw yn yr 21ain ganrif, wrth i ni wthio terfynau ffilmio ar raddfa fach i’r eithaf. 

Yeti team composite