Nod y Prosiect

voice.wales Photo Agency .

Mae gan ffotograffiaeth y pŵer i ledaenu newyddion i gynulleidfa fyd-eang, ond rydyn ni'n gwybod bod yna ddiffyg sylweddol o ddelweddau o safon sy'n dogfennu pobl a gwleidyddiaeth Cymru. Rydym am ymchwilio a datblygu asiantaeth ffotograffau arloesol ar gyfer diwydiant newyddion Cymru.  Byddwn yn arddangos delweddau o ansawdd uchel y gellir eu trwyddedu neu eu gwerthu i gyfryngau eraill yng Nghymru, y DU, a'r byd. Gan ddatblygu talent yng Nghymru o gefndiroedd amrywiol, bydd ein hasiantaeth yn gwella'r sector yn ei gyfanrwydd ac yn dangos darlun cywir o Gymru fodern i'r byd. 

Voice Wales team composite