Nod y Prosiect

Mae'r fformat teledu 'llwyfan sefydlog' ('fixed rig') (fel One Born Every Minute‚ 24 Hours in A&E, ac Ambulance) wedi cael effaith drawsnewidiol ar raglenni dogfen sy'n apelio'n fawr at y cyhoedd, wedi'u harwain gan gymeriadau a'u llywio gan fynediad. A ellir dyblygu effaith o'r fath o fewn byd rhaglenni dogfen rhyngweithiol? Bydd Hidden Narratives yn archwilio rôl cynnwys, fformat, marchnata a dosbarthu gan ei fod yn cwestiynu a allai'r rhaglen ddogfen ryngweithiol gyrraedd cynulleidfa fwy eang a thyfu i fod yn yrfa hyfyw ar gyfer cynhyrchwyr rhaglenni dogfen.
