Nod y Prosiect

Mae Goggleminds yn benderfynol o greu atebion hyfforddi arloesol ar gyfer y sector gofal iechyd sy'n ddifyr ac yn seiliedig ar wyddoniaeth. Er mwyn creu profiadau dysgu difyr, byddwn yn ystyried gemeiddio mewn rhith-realiti a'i rôl wrth ymdrwytho dysgwyr ac ennyn eu diddordeb. Er mwyn cefnogi ein dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth, byddwn yn defnyddio'r arferion ymchwil a datblygu diweddaraf i gael cipolwg ar ymddygiadau a dewisiadau defnyddwyr, gan ein helpu i ddylunio cynnwys hyfforddi i ddiwallu anghenion dysgwyr. Ein nod yw rhoi gwell mynediad i sefydliadau at gynnwys hyfforddi o ansawdd uchel, gwell effeithlonrwydd, a mwy o hyblygrwydd. Ar gyfer dysgwyr, ein nod yw cyflwyno profiadau dysgu pleserus sy'n realistig ac ymarferol mewn amgylcheddau dysgu diogel. 

 

Goggleminds team and logo composite