Nod y Prosiect

Mae Tiny City yn cynhyrchu prosiectau dan arweiniad artistiaid sy'n croesi rhwng platfformau dogfennol, safle-benodol a digidol.

Bydd prosiect Yn y Golau, yn archwilio sut y gellir cynnwys mynediad i bobl ddall a phobl â nam ar eu golwg yn y broses o greu perfformiad byw a gwaith digidol creadigol, a chyfrannu at brofiad yr holl gynulleidfaoedd. Bydd y tîm yn cyd-greu gyda chynulleidfaoedd dall a rhai sydd â nam ar eu golwg i brofi a datblygu modelau newydd o ymgysylltu digidol hygyrch, gan flaenoriaethu profiad y gynulleidfa ac ymgorffori hygyrchedd yn y broses greadigol, yn hytrach na'u cyflwyno wrth ôl-gynhyrchu.

Tiny City Logo