Ynghylch Rescape
Ffurfiwyd Rescape yn 2018 gan dîm sy'n arbenigo mewn technoleg arloesol ac mewn creu cynnwys. Ei ffocws yw datblygu technolegau realiti rhithwir newydd ar gyfer gofal iechyd; mae'n cynhyrchu cynnwys ar gyfer clustffonau VR y gall cleifion eu gwisgo i helpu i leihau eu poen a'u gorbryder. Ar hyn o bryd mae ei gynhyrchion yn cael eu defnyddio mewn ysbytai, cartrefi gofal a hosbisau.


Rydym yn wneuthurwyr cynnwys sy'n gweithio yn y byd meddygol. 

Rydw i a’m tîm yn gwneud cynnwys digidol ers blynyddoedd; rydym yn defnyddio adrodd storïau i drochi pobl i mewn i gynnwys, boed yn rhaglen deledu, yn ffilm neu'n gêm. Nawr ein gwaith ni yw trochi pobl i fannau wedi'u creu gan ddefnyddio profiad clywedol a gweledol i argyhoeddi defnyddwyr eu bod mewn man gwahanol i'r man lle y maen nhw yn gorfforol. Rydym yn gweithio gyda chlinigwyr i feddwl sut y gall ein cynnwys fod o fudd i'w cleifion a bod yn hawdd ei ddefnyddio.

Rydym yn bodoli oherwydd Ymchwil a Datblygu.

Ychydig flynyddoedd yn ôl, gwnaethom ychydig o ymchwil pro bono gydag Ysbyty Cancr Felindre ar ddefnyddio VR i helpu pobl i ddadsensiteiddio o gwmpas sganwyr MRI. Cawsom ganlyniadau da a chanfod cyfoeth o ymchwil arall sy'n dweud y gellir defnyddio VR i leihau poen a gorbryder. Fe wnaeth ein harwain i ddatblygu prototeipiau o gynnyrch VR gofal iechyd a'i brofi mewn hosbisau, ysbytai a chartrefi gofal nes bod gennym gynnyrch y gellir ei werthu.

Mae VR fel cylched fer i'r ymennydd; mae'n ein galluogi i ddysgu gwahanol dechnegau ymdopi i bobl yn gyflym. Er y gall rhywbeth fel ymwybyddiaeth ofalgar gymryd chwe mis cyn i chi weld budd, gellir defnyddio ein system VR i gael effaith lawer yn gynharach.

Defnyddir ein cynhyrchion presennol mewn amrywiaeth o leoliadau.

Mae staff y GIG a thimau gofal iechyd preifat yn defnyddio ein systemau DR.VR i leihau poen a phryder mewn unedau llosgiadau, mewn clinigau torri esgyrn a sefyllfaoedd eraill lle y gallai fod angen help ar gleifion i beidio â chynhyrfu. Gall cleifion brofi gwahanol fathau o feddalwedd VR, megis ymarferion anadlu ar gyfer tawelu, fideos 360° ar gyfer tynnu sylw a gemau sy'n seiliedig ar dasgau er mwyn tynnu sylw cleifion.

Cyn i ni wneud cais am gyllid Clwstwr, roeddem yn teimlo ein bod ar fin darganfod rhywbeth.

Roeddem yn gwybod bod gennym y gallu i wneud cynnwys pwerus ac roedd y posibiliadau ar gyfer defnyddio VR yn y byd meddygol yn ennyn ein chwilfrydedd. Roeddem eisoes wedi gwneud astudiaethau dichonoldeb ynghylch defnyddio VR yn yr adran mamolaeth a gallem weld potensial enfawr, felly gwnaethom gais llwyddiannus am arian Clwstwr i'w roi tuag at greu cynnyrch.

Fe wnaethom ddewis defnyddio methodoleg Diemwnt Dwbl y Cyngor Dylunio.

Yn y bôn cynllun dylunio yw'r Diemwnt Dwbl, sef proses â phedwar cam rydych chi'n ei dilyn i greu rhywbeth. Roeddem wedi defnyddio elfennau ohoni ar gyfer ein cynnyrch Iau DR.VR, ac roeddem yn awyddus i weld a fyddai'n gweithio i ni fel ffordd o wneud Ymchwil a Datblygu. 

Dechreuon ni gyda'r cam 'darganfod', gan gasglu pawb roeddem am weithio gyda nhw ynghyd ac asesu ble y gallem fynd gyda'r prosiect. Yna aethom i'r cam 'diffinio'. Fe wnaethon ni stopio meddwl mor fawr, trafodon ni yr hyn roeddem ni'n mynd i'w wneud a chrynhoi ein syniadau i mewn i set o friffiau. Yn y cam 'datblygu', fe wnaethon ni gynnig chwe syniad ar gyfer prototeipiau a meddwl sut y gallent weithio. Yn olaf, yn y cam, 'cyflawni', gwnaethom ddewis tri o'r prototeipiau i dreialu ar bobl i weld a oeddent yn gweithio. 

Mae'r dechnoleg rydym ni wedi'i chreu mor arbennig.

Trwy gydol y prosiect hwn, roedd gennym ddiddordeb mawr mewn bio-adborth ( lle rydych chi'n defnyddio electroneg i fonitro rhai gweithrediadau corfforol awtomatig, fel anadlu, er mwyn hyfforddi rhywun i ennill mwy o reolaeth wirfoddol dros y gweithrediad hwnnw). Gwnaethom ddylunio pob un o'r prototeipiau o amgylch y rhyngweithio rhwng gwahanol ddyfeisiau biometreg ac amgylcheddau VR. 

Un o'r amgylcheddau a grëwyd gennym oedd golygfa lle rydych chi'n cerdded ar hyd llwybr tonnog, roedd un yn seiliedig ar ddrudwy ymfudol ac roedd un yn canolbwyntio’n fawr ar ddelweddu. Wrth i'r dyfeisiau biometreg dderbyn darlleniadau gan y defnyddiwr i bennu pa mor hamddenol ydyn nhw yn amgylchedd y byd go iawn, newidiwyd yr amgylchedd VR yn unol â hynny i helpu'r defnyddiwr i ymlacio’n fwy.

Mae gennym lawer o lwybrau i'w harchwilio yn dilyn ein Gwaith Ymchwil a Datblygu.

Mae llwyddiant y Gwaith Ymchwil a Datblygu wedi ein hannog i barhau i ddatblygu cynnyrch VR mamolaeth a hypno-eni ochr yn ochr â'n gwaith arall. Rydyn ni'n cael ein calonogi'n fawr gan y gwaith rydyn ni wedi bod yn ei wneud ynghylch bio-adborth, felly byddwn ni'n parhau i ymchwilio a datblygu sut y gall VR a bio-adborth weithio gyda’i gilydd i wella cleifion. Hoffem edrych i mewn i sut y gellid defnyddio'r cynnyrch trwy gydol beichiogrwydd, nid dim ond adeg yr enedigaeth, a hoffem archwilio sut y gallai gael ei ddefnyddio ar gyfer profiadau hypno-eni gartref.