Helo Nora. Sut byddech chi'n disgrifio Triongl a beth mae'n ei wneud?
Mae Triongl yn gwmni cynhyrchu teledu a ffilm sy'n ceisio ehangu i faes arloesi. Rydyn ni’n arbenigo ar ddrama. Yn fwyaf diweddar cynhyrchon ni 'Y Golau'/'The Light in the Hall' ar gyfer Channel 4 ac S4C yn y DU a 'Sundance Now' yn yr Unol Daleithiau. Mae ein menter newydd wedi tyfu o’n harbenigedd cynhyrchu a’n hawydd i chwyldroi’r gweithle drwy ddylunio arloesedd sy’n canolbwyntio ar bobl ar gyfer y diwydiant cynhyrchu. Ein gweledigaeth yw cael gweithle mwy caredig sy'n canolbwyntio ar iechyd meddwl a lles a chynaliadwyedd a chynyddu effeithlonrwydd hefyd ar yr un pryd.
Sut clywsoch chi am gyllid Clwstwr?
Aethon ni i ddigwyddiad lansio Clwstwr yn ôl yn 2019.
Beth wnaeth eich ysbrydoli chi i wneud cais am gyllid?
Cawsom ein hysbrydoli gan y bwriadau a nodwyd a'r posibiliadau a gynigiwyd. Doedd hi ddim yn ymddangos bod unrhyw un arall yn ariannu'r mathau hyn o brosiectau nac yn annog ymchwil a datblygu yn y diwydiannau creadigol.
Esboniwch yr hyn roeddech yn bwriadu ei wneud yn eich cais
I ddechrau, gwnaethon ni gais am arian sbarduno i edrych ar y posibilrwydd o sefydlu ymgynghoriaeth ar gyfer cynhyrchu cefn wrth gefn (h.y. y dull o gynhyrchu fersiwn dwy iaith o’r un sioe ar yr un pryd) – dull a ddefnyddir yn rheolaidd yng Nghymru ond yn llai felly mewn gwledydd eraill.
Disgrifiwch y broses rydych chi wedi bod drwyddi ers derbyn y cyllid
I ddechrau, dyfarnwyd £10,000 i ni i gynnal astudiaeth dichonoldeb. Cydweithion ni â'r sefydliad ymchwil dylunio ac arloesi PDR i edrych yn fanwl ar y ffordd rydyn ni'n gweithio a'r posibiliadau o ran hyn. Daeth yn amlwg yn fuan bod y cwmpas yn ehangach nag roeddem wedi'i dybio i ddechrau. Ganed cnewyllyn ein platfform technoleg cynhyrchu, Tri.
Ar sail ein canfyddiadau, gwnaethon ni gais am gyllid prosiect a dyfarnwyd £50,000 i ni i wneud gwaith ymchwil manwl dwys. Defnyddion ni ein cynhyrchiad diweddaraf, 'Y Golau'/'The Light In The Hall' fel achos prawf, gan gynnal rhaglen ymchwil helaeth i werthuso'r meysydd lle gallen ni symleiddio a gwella'r broses gynhyrchu a nodi meysydd lle byddai’n bosibl ychwanegu rhagor o werth mewn cynyrchiadau cefn wrth gefn.
Nododd ein hymchwil a datblygu helaeth bedwar maes allweddol sy’n peri pryder sy’n barod i’w gwella, sef:
Iaith
Mae gan Gymru weithlu dwyieithog medrus; mewn arolwg diweddar, nododd 37% o’r rhai sy’n gweithio yn y sector sgrin yng Nghymru eu bod yn siarad Cymraeg yn rhugl, sy’n llawer uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol o 18%. Ar hyn o bryd does dim unrhyw feddalwedd rheoli cynhyrchu sy'n cefnogi cynyrchiadau amlieithog.
Yr Amgylchedd
Yn 2022, Cymru oedd y rhanbarth cyntaf i gymryd rhan yng Nghynllun Trawsnewid y Fargen Newydd ar gyfer Sgrîn – menter i ddod â’r diwydiannau sgrin i Sero Net. Gwastraff (e.e. papur) yw un o feysydd problem mwyaf y diwydiant ar ôl defnyddio tanwydd, felly mae angen dewis digidol yn lle prosesau papur.
Effeithlonrwydd
Mae cynhyrchu ffilm a theledu yn ddull hierarchaidd, hen iawn o weithio, lle mae prosesau gweinyddol â llaw hen ffasiwn yn cael eu dyblygu’n barhaus, bron. Mae’r gwaith diangen hwn yn rhoi pwysau aruthrol ar unigolion.
Llesiant
Mae sector sgrin y DU yn dioddef argyfwng iechyd meddwl. Nododd adroddiad Looking Glass yn 2022 fod 60% o’r rhai sy’n gweithio yn y diwydiant wedi ystyried gadael y sector oherwydd pryderon iechyd meddwl. Mae oriau gwaith hir ac anhyblyg ynghyd ag amodau gwaith gwenwynig wedi cyfrannu at gyfraddau gwael o ran colli staff. Mae angen gwneud rhywbeth i achub y diwydiant.
Ar ôl nodi'r broblem, buon ni’n cydweithio â Sugar Creative i brototeipio ein hateb – platfform digidol arloesol ar gyfer cynyrchiadau teledu, Tri.
Beth fyddech chi'n ei ddweud oedd prif ganlyniadau'r ymchwil a datblygu?
Nodon ni feysydd problem allweddol, meddwl am atebion i wella'r diwydiant a gwneud platfform prototeip. Drwy Tri, gallwn ni wella effeithlonrwydd, gwella amodau gwaith ac ychwanegu gwerth at unrhyw fath o gynhyrchiad Teledu a Ffilm sy'n gweithio mewn sawl iaith, boed yn dilyn y model cefn wrth gefn neu'n syml mewn amgylchedd amlieithog lle mae mwy nag un iaith yn cael ei defnyddio ar y set neu y tu ôl i’r camera.
I ble'r ewch chi nesaf, yn dilyn y gwaith ymchwil a datblygu?
Y consensws o fewn y diwydiannau creadigol yw bod angen gwneud mwy i wella iechyd meddwl a lleihau ôl troed carbon y broses gynhyrchu. Rydyn ni’n credu y gall Tri gael effaith gadarnhaol ar y ddau beth, a hynny i gyd wrth wneud y swydd yn haws ac yn symlach i bawb sy’n gweithio ym maes cynhyrchu. Rydyn ni wedi cyrraedd y pwynt nawr lle rydyn ni’n chwilio am gyllid ychwanegol i adeiladu’r platfform, i wneud profion byw trwyadl cyn mynd â Tri i’r farchnad.