Wales Interactive

Mae Wales Interactive yn ddatblygwr a chyhoeddwr gemau fideo. Mae wedi bod o gwmpas ers dros ddegawd, gyda'r saith mlynedd ddiwethaf yn cynnwys gweithio ar ffilmiau rhyngweithiol lle mae chwaraewyr yn dewis llwybr y naratif. Mae gwaith y cwmni ar gael ar gonsolau, ffonau symudol, PC, Steam a Mac.

Gemau fideo yw ein bara menyn.

Roeddwn i eisiau aros yng Nghymru ar ôl gorffen yn y brifysgol yma, ond doedd fawr ddim diwydiant gemau fideo yng Nghymru ar y pryd. Ar ôl cwrdd â David Banner, fe benderfynon ni sefydlu ein cwmni ein hunain, lle rydyn ni'n mwynhau creu profiadau rhyngweithiol, gemau fideo a difyrru pobl.

Roedd ein prosiect Clwstwr yn ymwneud â ffilmiau rhyngweithiol, maes roedden ni wedi gweithio ynddo ers blynyddoedd.

Pan ddechreuon ni wneud ffilmiau rhyngweithiol, gwelsom ni fod bwlch yn y farchnad: er bod gemau ffilm rhyngweithiol wedi bod yn fawr yn yr 1980au a'r 1990au, gyda gemau fel Night Trap a The X Files Game, ychydig iawn oedd rhwng hynny a thua 2013. Gan fanteisio ar ddiwydiant teledu a ffilm cryf Cymru, roedden ni am archwilio'r potensial ar gyfer twf ac amlygrwydd tebyg ar gyfer y diwydiant ffilmiau rhyngweithiol yma.

Cwrddon ni â rhywun yn gamescom yn Cologne oedd yn rhannu ein diddordeb mewn ffilmiau rhyngweithiol. Trodd y cyfarfyddiad hwn ar hap yn berthynas waith ac yna'n ffilm ryngweithiol hynod lwyddiannus, The Bunker. Roedd nifer fach o gwmnïau'n ceisio gwneud ffilmiau rhyngweithiol, ond roedden nhw'n ei chael hi'n anodd gwneud i'w gemau weithio. Roedd pob cwmni'n gwneud pethau ychydig yn wahanol, gan arwain at broblemau neu bwyntiau anodd unigryw. Aethon ni ati i'w helpu i gwblhau eu gemau. Wedyn, fe sylweddolon ni gymaint yn haws fyddai pethau i'r diwydiant pe bai ffordd safonol o greu ffilmiau rhyngweithiol.

Roedd gennym ni rywfaint o brofiad ymchwil a datblygu ar ôl datblygu teclyn o'r enw WIST.

Mae WIST (Wales Interactive Scripting Tool) yn gadael i chi ysgrifennu naratif rhyngweithiol heb unrhyw wybodaeth flaenorol am y dechnoleg. Mae'n symleiddio'r broses gyfan ac yn creu safoni mewn maes lle nad oedd dim yn bodoli. I'w roi mewn persbectif, rydyn ni wedi mynd o gyhoeddi un gêm neu ffilm ryngweithiol y flwyddyn cyn i ni greu WIST i fod yn cynhyrchu chwech ar unrhyw adeg.

Tyfodd y prosiect Clwstwr o'n hawydd i ddarparu ein ffilmiau rhyngweithiol yn eang.

Yn flaenorol, roedden ni'n cynnig ein ffilmiau rhyngweithiol trwy lawrlwytho uniongyrchol (lle mae chwaraewr yn lawrlwytho'r ffilm gyfan, yn hytrach na defnyddio copi ffisegol). Roedd hyn yn gweithio, ond roedd yn cymryd amser i lawrlwytho gêm ac ambell waith byddai'n defnyddio llawer o ofod system ar gonsol y chwaraewr.

Roedden ni'n meddwl tybed a fyddai'n bosibl symleiddio hyn trwy ganiatáu i chwaraewyr ffrydio'r ffilmiau rhyngweithiol. Byddai'n debyg i ffrydio o Netflix neu Amazon Prime, ond o hyb lle gall pobl gyrchu llawer o gemau.

Cawsom tua £90,000 o gyllid gan Clwstwr i weithio ar ein syniad.

Y briff pennaf oedd darganfod sut i wneud ffilmiau rhyngweithiol yn fwy hygyrch i bobl.

Roedd un o'r meysydd archwilio'n gobeithio datrys problem oedi wrth lawrlwytho; roedden ni am weld a oedd ffordd i sefydlu'r hyb fel bod chwaraewyr yn gallu lawrlwytho darn o'r ffilm ryngweithiol yn unig ac yna ffrydio'r gweddill. Byddai'n golygu na fyddai angen cael lawrlwythiadau mawr ar eich consol, ac yn cyflymu'r amser aros rhwng dewis cael gêm a'i chwarae. Roedden ni hefyd am archwilio sut i sicrhau ansawdd fideo uchel a phrofiad gwerthfawr i chwaraewyr yn gyson wrth ffrydio.

Roedd y cyfnod cynnar yn cynnwys ymchwilio i'r hyn sy'n bodoli ar hyn o bryd.

Roedden ni am wybod beth oedd ar gael a phwy oedd yn ei wneud. Ochr yn ochr â hyn, dechreuon ni ddiffinio beth fyddai'r cysyniad hwn o hyb ffilmiau rhyngweithiol. Gweithion ni gyda'n cynhyrchydd Clwstwr Greg i greu cynlluniau ar gyfer sut i strwythuro'r ymchwil a datblygu, gan ofyn cwestiynau i'n hunain a thrafod opsiynau ar gyfer ffyrdd ymlaen. Ar ôl sawl iteriad o'r hyb, y casgliad oedd mai ffrydio fyddai'r opsiwn gorau yn ôl pob tebyg.

Cysyllton ni â Netflix ac Amazon, chwaraewyr mawr ym maes ffrydio, ynglŷn â chydweithio.

Gofynnon ni a fyddai ganddyn nhw ddiddordeb i ni wneud profion gyda nhw. Roedd yn ymddangos mai Amazon fyddai'r llwybr mwyaf addas i ni'n dau; roedden nhw'n agored i'r syniad o gynnig rhyngweithiol. Roedden ni'n teimlo'n hyderus gan ein bod yn gwybod y bydden ni'n gallu dysgu llawer ar y ffordd. Mae technoleg ffrydio Amazon yn rhedeg ar letya AWS felly roedden ni'n gwybod y byddai'n gallu delio â'r hyn roedden ni am ei wneud.

Llwyddodd ein timau technoleg i weld sut i roi ffilm ryngweithiol ar yr Amazon Firestick.

Cymerodd lawer o amser a sawl iteriad i gael fideos mor ddi-dor â phosibl heb oedi sain na fideo, ond rwy'n falch i ddweud ein bod wedi llwyddo i gael prototeip oedd yn gweithio'n dda iawn. Unwaith roedd hwn ar gael, dechreuon ni gasglu adborth a gwneud mwy o brofion.

Gweddol oedd yr ymateb iddo, a doedd hynny ddim yn ddelfrydol!

Wedi dweud hynny, rydyn ni'n meddwl mai'r rheswm am hyn yw nad oes gan yr Amazon Firestick sail ddigon mawr o ddefnyddwyr i ni allu gwneud yr hyn roedden ni'n ei ddymuno mewn gwirionedd. Dydyn ni ddim yn rhy siomedig, oherwydd creodd y prosiect Clwstwr berthynas rhyngom ni ag Amazon, sy’n wych, ac rydyn ni wedi dangos bod modd ffrydio ffilmiau rhyngweithiol. Rwy'n siŵr yr awn ni'n ôl atyn nhw yn y dyfodol i weld a oes modd rhoi ffilm ryngweithiol ar Amazon Prime.

Rydyn ni'n hapus iawn gyda'r canlyniad a'r dyfodol posibl i ni yn ffrydio ffilmiau rhyngweithiol. Rwy'n credu bod rhyngweithiol yn mynd i fod ar flaen y gad ym mhopeth yn y dyfodol. Mae'n braf cael bod yn rhan o'r cychwyn, er ei fod yn teimlo fel camu i'r tywyllwch weithiau.