Yn 2018 sefydlodd Cherry Barber-Mansell The White Tent Company. Mae'n gwmni digwyddiadau ymgolli sy'n arbenigo mewn digwyddiadau dirgelwch llofruddiaeth sy'n cyfuno technolegau amlgyfrwng â thechnegau perfformio traddodiadol.
Dychmygwch y llofruddiaeth (ffuglennol) mae Cherry'n ei chreu: rydych chi, fel ditectif am ddiwrnod, yn chwilio safle trosedd am dystiolaeth gyda chymorth eich ffôn clyfar neu iPad. Wrth i chi archwilio'r ystafell, rydych chi'n dod o hyd i godau QR sy'n datgelu cliwiau wrth gael eu sganio. Gallai'r rhain fod yn ganlyniadau DNA, lluniau teledu cylch cyfyng, trawsgrifiadau o gyfweliad neu ddarn arall o wybodaeth. I gasglu mwy o dystiolaeth, mae pobl dan amheuaeth (sy'n actorion) o gwmpas y lle i chi gael rhyngweithio â nhw neu eu holi. Drwy holi cwestiynau a chasglu tystiolaeth gyda thechnoleg, gallech ddatrys y dirgelwch yn llawn.
"Roedden ni eisoes wedi cyfuno technoleg a pherfformio, felly i'n gwthio ni ymhellach, cyflwynon ni gais i Clwstwr am gyllid sbarduno," dywed Cherry. "Roedden ni'n awyddus i edrych ar ddatblygu ap i bobl ei ddefnyddio yn ein digwyddiadau, rhywbeth fyddai'n defnyddio realiti rhithwir neu estynedig i ychwanegu haen arall i'r olygfa. Mae ein cynulleidfaoedd wrth eu bodd yn mynd amdani, felly meddylion ni y byddai haen ychwanegol o ymgolli'n cyfoethogi'r profiad. Doedden ni ddim yn gwybod sut fyddai'r ap yn edrych na pha dechnoleg fyddai ei hangen, felly roedd ymchwil a datblygu'n syniad da."
Roedd Cherry wedi bwriadu rhoi cychwyn ar bethau gyda thaith ymchwil i ŵyl gemau wythnos o hyd yn Llundain, lle mae cwmnïau'n arddangos technolegau newydd, datblygwyr apiau'n sgwrsio a chwmnïau gemau'n dod allan i chwarae. Ond wythnos ar ôl dechrau'r prosiect Clwstwr, daeth popeth i ben oherwydd y pandemig, yn cynnwys yr ŵyl gemau a pherfformiadau Cherry.
"Roedd yr hyn wnaethon ni yn y diwedd yn wahanol, ond yn dal i fod yn ddefnyddiol," meddai Cherry. "Aethon ni ati i ddwysau ein hymdrechion ymchwil a rhwydweithio ar-lein, gan gynnwys cyfarfodydd Zoom, sgyrsiau ebost ac ymchwil desg, gan gynyddu ein hymwybyddiaeth o'r diwydiant.
"Cawsom lawer o help gan ein mentoriaid Clwstwr a thrwy hynny roedd yn bosib creu cysylltiadau yn y diwydiant apiau. Rhoddon nhw adborth i ni hefyd ar ein syniadau gan ein gwthio i'r cyfeiriad cywir. Bu bron i ni roi'r gorau iddi ar un pwynt gan fod y pandemig yn atal popeth, ond anogon nhw ni i barhau i wthio oherwydd wyddoch chi byth beth sy'n mynd i ddigwydd ymhen ychydig fisoedd. Roedd yn teimlo fel cyfuniad o gefnogaeth i'r ysbryd, cefnogaeth fusnes, a rhywun i'n cadw'n atebol - ac roedd hynny'n braf iawn."
Ar ôl archwilio technolegau, penderfynodd Cherry a'i thîm yn erbyn realiti rhithwir: "Roedden ni'n hoffi'r syniad o brofiad cyflawn gyda llawer o bobl felly fyddai realiti rhithwir, sy'n rhywbeth i un person, ddim yn gweithio ar gyfer yr ap. Penderfynon ni ganolbwyntio ar realiti estynedig a siaradon ni gyda dylunwyr graffig, codwyr a datblygwyr apiau."
Gan roi popeth roedd wedi'i ddysgu mewn un canlyniad diffiniedig, gwnaeth Cherry brototeip ar gyfer yr ap: "Roeddwn i'n meddwl y byddai prototeip yn ddrud i'w gynhyrchu a'i gynnal; pan ddywedodd partner Clwstwr wrthym fod prototeip yn gallu bod mor syml â chyflwyniad Powerpoint, doeddwn i ddim yn credu'r peth!
"I wneud y prototeip, roedd gennym ni rywun yn mynd o gwmpas yr ystafell drwy'r camera. Yna, defnyddion ni dechnoleg tagio yn debyg i'r hyn mae Snapchat yn ei ddefnyddio i osod ein logo mewn mannau o gwmpas yr ystafell i ddod o hyd i gliwiau. Arweiniodd hyn at fideo byr yn dangos sut y byddai'n edrych. Aethon ni ati i greu bwrdd stori hefyd yn dangos sut i ddefnyddio'r ap, yn cynnwys camau ar lawrlwytho'r ap, mewngofnodi a chyflwyno atebion."
Oherwydd effaith y pandemig ar y diwydiant digwyddiadau byw, mae Cherry am aros cyn mynd â'r ap ymhellach. "Rwy'n hapus gyda ble y cyrhaeddon ni, yn enwedig gan ein bod wedi gorfod newid cynlluniau cychwynnol ein prosiect Clwstwr,"meddai. "Pan fydd yr amser yn iawn, byddwn yn ymgeisio am fwy o arian i edrych ymhellach ar realiti estynedig a chreu ap. Rwy'n awyddus iawn i barhau, ond gan y bydd yn costio tua £40,000, rwyf i am aros tan y byddwn yn ôl ar ein traed gyda pherfformiadau a chyllid."