Mae ymchwilwyr Clwstwr wedi diweddaru'r adroddiad, Maint a chyfansoddiad y Diwydiannau Creadigol yng Nghymru, i gynnwys y data diweddaraf sydd ar gael - gan roi cipolwg ar y cyfnod toc cyn pandemig COVID-19.

Pan gaiff ei ddehongli, mae'r data hwn yn 2019 yn dangos datblygiad cadarnhaol clir o'r diwydiannau creadigol yng Nghymru a Chaerdydd.

Gan fod yr adroddiad yn manylu ar faint a chyfansoddiad y sector cyn yr aflonyddwch a achosir gan y pandemig, bydd yn llinell sylfaen a fydd yn caniatáu i ymchwilwyr roi asesiadau cywir a manwl o effaith COVID-19 ar fentrau creadigol yng Nghymru (cynhelir yr astudiaeth hon yn ystod haf 2022).

Mae fersiwn 1.2 ar adroddiad Maint a chyfansoddiad y Diwydiannau Creadigol yng Nghymru wedi’i chyhoeddi heddiw ac yn edrych yn fanylach ar 2018 a 2019.

Size and composition of the creative industries in Wales infographic

Yn ail, mae'n rhoi ffocws ychwanegol ar Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, yn ogystal â Chymru a Chaerdydd, o gofio bod gan y bwrdeistrefi o amgylch Caerdydd weithgarwch sylweddol ymysg y diwydiannau creadigol.

Size and composition of the creative industries in Cardiff Capital Region infographic

Wrth sôn am hyn, dywedodd Cyfarwyddwr Clwstwr, yr Athro Justin Lewis: "Mae’r adroddiad yn dangos bod y twf cryf yn y sectorau creadigol Cymreig a welsom yn ein hadroddiad cyntaf (a edrychodd ar y cyfnod hyd at 2017) wedi cynyddu ei gyflymder yn 2018 a 2019. Mae rôl Caerdydd fel catalydd ar gyfer twf yng Nghymru yn dod yn fwyfwy amlwg – erbyn 2019 roedd tua 1 o bob 7 o swyddi cwmni yng Nghaerdydd yn y diwydiannau creadigol – cynnydd sylweddol o 2017, pan oedd y gymhareb yn 1 mewn 10. Ym mhrifddinas Cymru gwelsom gyfraddau twf cryf yn 2018 a 2019 yn y rhan fwyaf o sectorau creadigol, gan gynnwys dylunio, cerddoriaeth, ffilm a theledu.
 
"Yn ein hadroddiad nesaf byddwn yn edrych ar yr effaith a gafodd COVID-19 ar sectorau creadigol Cymru. Yr hyn y mae’r adroddiad hwn yn ei ddangos yw bod y diwydiannau creadigol, cyn y pandemig, wedi’u hen sefydlu fel maes twf allweddol ac yn rhan fawr o economi Cymru – yn enwedig ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd."

Gallwch lawrlwytho'r adroddiad llawn yma: 

Mae'r data'n cynrychioli ffigurau o 2019 (y data diweddaraf sydd ar gael yn 2021 oherwydd gofynion ffeilio cwmnïau).

Cewch hyd i'r adroddiad llawn ar faint a chyfansoddiad y diwydiannau creadigol yng Nghymru o 2009 i 2017 yma:

Cymeradwywyd yr adroddiad ymchwil hwn gan: 

Marlen Komorowski

Dr Marlen Komorowski, Dadansoddydd Effaith

Professor Justin Lewis

Yr Athro Justin Lewis, Cyfarwyddwr

Máté Fodor headshot

Máté Fodor