Gwybodaeth am Y Pod
Mae Y Pod yn wasanaeth podlediadau iaith leiafrifol sy'n casglu'r holl bodlediadau Cymraeg ynghyd mewn un lle. Mae'n hwyluso’r broses o ddod o hyd i bodlediadau ac yn rhoi un lle i ddefnyddwyr wrando ar bob podlediad Cymraeg.
Roeddwn am ddod o hyd i bodlediadau addas a fodolai y tu allan i'r llwyfannau blaenllaw hyn
Edrychais i mewn i faint o bodlediadau Cymraeg oedd yn bodoli a'u rhestru i gyd mewn un lle, dim ond i mi weld beth oedd ar gael. Roedd yn cynnwys llawer o chwilio ar Twitter, Facebook a Google. Roedd 38 podlediad Cymraeg ar y pryd hwnnw (2018). Gyda'r data hyn a'r ymwybyddiaeth hon, sefydlais gyfrif cyfryngau cymdeithasol yn 2019 ar gyfer Y Pod. Yn y bôn, roedd yn gyfrif a oedd yn rhannu dolenni i bodlediadau Cymraeg, fel y gallai pobl fel fi ddod o hyd i'r holl bodlediadau Cymraeg mewn un lle a dod o hyd i ddolenni iddynt.
Roedd Y Pod yn helpu i ddod yn agos at ddyblu nifer y podlediadau Cymraeg yn 2019
Trwy hyrwyddo'r hyn oedd yn bodoli, roedd podlediadau Cymraeg yn cael mwy o wrandawyr. Cafodd y gymuned ei chefnogi'n well a oedd, ryw’n credu, yn annog mwy o bobl i gynhyrchu podlediadau Cymraeg. Roedd hyn oll yn dangos potensial Y Pod i mi.
Cysylltais â Clwstwr am gyllid i ddatblygu Y Pod yn ganolfan i wrandawyr
Cefais £31,500 o gyllid gan Clwstwr i'w roi tuag at y prosiect, a oedd yn fy ngalluogi i ganolbwyntio a datblygu Y Pod. Roeddwn i eisiau gwella profiadau defnyddwyr o Y Pod; yn ogystal â hyrwyddo a rhannu dolenni i'r podlediadau, roeddwn ami roi profiad gwrandawyr da iawn i bobl ar ôl iddynt gael gwybod am bodlediad drwy Y Pod. Roeddwn i eisiau creu canolbwynt lle gallech wrando ar yr holl bodlediadau Cymraeg mewn un lle. A, pe bai'n gweithio, gallai ddod yn fodel y gellid ei gyflwyno mewn ieithoedd eraill.
Roedd gen i lawer o ddata am niferoedd defnyddwyr a chyfraddau ‘bownsio’ (roedd defnyddwyr yn glanio ar Y Pod ac yna'n mynd i ffwrdd i rywle arall i wrando, a oedd yn iawn gan mai dyna oedd y bwriad cychwynnol). Roeddwn am gadw'r defnyddwyr hyn o fewn seilwaith Y Pod, fel y gallent gael profiad gwrando da iawn. Yn ogystal, roeddwn yn ymwybodol o greu ffynhonnell incwm i gadw Y Pod yn gynaliadwy yn economaidd, felly gallai ychwanegu swyddogaeth wrando i gadw defnyddwyr ddarparu mwy o botensial i hyn ddigwydd.
Dechreuais fy mhrosiect Clwstwr drwy weld beth oedd eisoes yn bodoli
Roedd rhai pethau ychydig yn debyg ar gael, o ran prosiectau a oedd yn grwpio podlediadau o fath penodol. Er enghraifft, roedd prosiect ym Minnesota a oedd wedi tynnu ynghyd yr holl bodlediadau a leolir ym Minnesota. Edrychais hefyd ar yr hyn a oedd ar gael mewn ieithoedd eraill. Daeth i'r amlwg nad oedd dim; roedd bwlch y gallai Y Pod ei lenwi.
Yna edrychais ar nodweddion y prif chwaraewyr podlediadau ac apiau a allai fod o fudd i Y Pod, fel y gallem roi profiad tebyg i bobl. Y tu hwnt i hyn, ymchwiliais i bwy y gallwn weithio gyda nhw i ddatblygu Y Pod, sut y gallem ei ddatblygu'n fodel sy'n gwneud podlediadau ar thema yn haws dod o hyd iddynt.
Roedd cysylltiad agos rhwng y camau ymchwil, arloesi ac adeiladu
I ychwanegu at fy ngwybodaeth am godio, deuthum â pheiriannydd meddalwedd i'm helpu gyda'r arloesi a'r adeiladu, yn seiliedig ar fy ymchwil. Deuthum o gefndir o orfod gweithio i friffiau a therfynau amser tynn, felly pan ddywedodd fy nhîm Clwstwr wrthyf i roi cynnig ar bethau a gweld beth sy'n gweithio, roedd yn teimlo'n gwbl newydd i mi!
Gwnaethom roi cynnig ar lawer o bethau'n ailadroddus, gan gymryd ychydig o gamau a chyflwyno adeiladau bach yn rheolaidd. Roedd hyn yn ein galluogi i weld sut yr oedd pobl yn bwrw ymlaen â phob peth bach yr oeddem wedi'i adeiladu, yn hytrach nag adeiladu'r holl beth heb ei brofi ar y llwybr.
Buom yn ystyried cefn a blaen Y Pod ar yr un pryd
Gwyddwn fod yn rhaid inni adeiladu rhywbeth syml iawn a oedd, yn y cefn, yn galluogi cronfa ddata podlediadau i gael ei chwilio a'i rhoi mewn categorïau, fel y gellid cyflwyno Y Pod i ieithoedd eraill. Roeddwn hefyd am i'r rhyngwyneb fod yn hawdd ei ddefnyddio, i'w wneud yn bleserus i ddefnyddwyr.
Adeiladwyd Y Pod o un gronfa ddata, gyda phodlediadau Cymraeg. Roedd hyn yn rhoi’r hyblygrwydd i ni allu defnyddio'r feddalwedd ar gyfer pethau tebyg yn y dyfodol; er enghraifft, er mwyn adeiladu canolbwynt ar gyfer podlediadau mewn iaith arall neu ar bwnc penodol, byddai'n fater o boblogi'r gronfa ddata gyda'r mathau hynny o bodlediadau.
Ar gyfer y fersiwn Gymraeg hon o Y Pod, rhannwyd y podlediadau yn chwe chategori (adloniant a cherddoriaeth, chwaraeon, crefydd, materion cyfoes, rhaglenni plant a rhaglenni ffeithiol). Yn ystod y prosiect, fe wnaethom sylweddoli bod nifer y dysgwyr Cymraeg sy'n dod i'r gwasanaeth yn chwilio am bodlediadau i wella eu Cymraeg yn fawr iawn, felly ychwanegwyd hidlydd sy'n tynnu sylw at bodlediadau sy'n addas i ddysgwyr Cymraeg.
Yn dilyn sgyrsiau â datblygwyr apiau, adeiladwyd Y Pod fel ap gwe dibynadwy
Mae'n wefan sydd wedi’i dylunio ar gyfer ffonau clyfar yn bennaf, oherwydd dyna lle mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwrando, ond gellir ei osod ar ffonau clyfar fel ap. Fe wnes i lawer o brofion gan ddefnyddwyr yn ystod y cam arloesi ac adeiladu hwn, dim ond i gael adborth am sut roedd pobl yn defnyddio'r gwasanaeth, beth oedd eu barn arno, a oedden nhw'n teimlo eu bod yn gallu darganfod podlediadau, ac yn y blaen.
Wrth i ni ddatblygu Y Pod, bu cynnydd yn nifer y podlediadau Cymraeg
Gwelsom fod pobl yn dod atom i ofyn a ellid eu hychwanegu at Y Pod, a oedd yn anhygoel. Mae'n beth prin nawr i rywun lansio podlediad Cymraeg a pheidio â chysylltu â ni. Erbyn diwedd y prosiect roedd 140 o bodlediadau Cymraeg, sy’n gynnydd enfawr o'r adeg y dechreuais Y Pod. Mae'r prosiect hwn yn dangos y gallwn gefnogi'r byd podledu Cymraeg trwy gynnig llwyfan hyrwyddo i bobl ddarganfod y podlediadau a gwrando arnynt, i gyd mewn un lle.
Rydym yn gyffrous iawn i weld sut bydd Y Pod yn datblygu
Arafodd y pandemig ein bwriadau ar gyfer cyflwyno Y Pod mewn ieithoedd eraill, ond rwyf wedi cael trafodaethau cychwynnol addawol â sefydliadau eraill ynglŷn â'i wneud ar gyfer gwahanol ieithoedd. Byddai hynny'n beth braf iawn i'w wneud – ehangu i iaith arall, datblygu rhywbeth o amgylch yr iaith honno a gweld a ellir cael yr un effaith yn yr iaith benodol honno. Unwaith y bydd cynadleddau ac expos diwydiant yn dechrau'n ôl, gallaf fynd atynt ac arddangos Y Pod o flaen pobl, a ddylai fod yn dda iawn hefyd.
Mae gwahanol gyfleoedd i wneud arian o Y Pod. Mae gennym hysbysebion yn awr, sy'n gynnydd da. Y prif beth i mi, ar yr elfen fasnacheiddio, fyddai cysylltu â siaradwyr ieithoedd eraill, ac yna rhoi rhyw fath o fodel masnachfraint ar waith. Fi fyddai'n berchen ar y cod ac yn cynnal y gwasanaeth, ond byddai rhywun sy'n siaradwr brodorol yn yr iaith honno yn rhedeg y gwasanaeth. Edrychaf ymlaen yn fawr at weld lle byddwn ni’n mynd nesaf.