Mae'r Cwestiynau Cyffredin hyn yn ymwneud yn bennaf â chylchoedd ariannu rhaglen Clwstwr (2019 / 2020 / 2021). Diweddarwyd y cynnwys hwn ddiwethaf ar 24 Mai 2021.  

Beth yw Clwstwr?

Rhaglen uchelgeisiol yw Clwstwr i ddiwydiant greu cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau newydd sy’n ymwneud â’r sgrin a’r newyddion. Mae Clwstwr yn adeiladu ar lwyddiant De Cymru o ran creu cynnwys creadigol drwy roi ymchwil a datblygu wrth galon cynhyrchu.  

Clwstwr - where ideas thrive through

Rydym yn creu diwylliant o arloesi yn y clwstwr sy'n symud y sector sgrin o safle o gryfder i un o arweinyddiaeth fyd-eang.  

Beth yw ystyr prosiecymchwil a datblygu i'r Clwstwr? 

Ni all Clwstwr ariannu gweithgarwch ‘busnes fel arfer’.

Mae ein proses gwneud cais yn gofyn i chi ddangos bod eich prosiect yn ffocysu ar weithgarwch Y&D. 

Gallwn eich helpu chi ddatblygu syniadau eich prosiect, ond fel man cychwyn rydyn ni'n chwilio am brosiectau sy'n dangos eu bod nhw: 

  • yn ceisio creu canfyddiadau newydd?(Newydd)
  • yn seiliedig ar gysyniadau a damcaniaethau gwreiddiol nad ydynt yn amlwg?(Creadigol)
  • â lefel o ansicrwyddynghylch y canlyniad terfynol?
  • â dull cynllunio a chyllidebu (Systematig)
  • yn arwain at ganlyniadau y gellir eu hatgynhyrchu – gan arwain at drosglwyddo gwybodaeth newydd?(Trosglwyddadwy/neu gellir ei atgynhyrchu)

Gweler diffiniad llawn o'r mathau o Ymchwil a Datblygu ar ddiwedd y Cwestiynau Cyffredin hyn.

Rydym yn cael ein hariannu gan Raglen Clystyrau’r Diwydiannau Creadigol, sy’n rhan o Strategaeth Ddiwydiannol y Deyrnas Unedig ac yn cael ei chyflawni gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC), a gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol.   

Pwy sy’n cymryd rhan yn Clwstwr? 

Mae Clwstwr yn bartneriaeth Ymchwil a Datblygu (R&D) rhwng addysg uwch a’r diwydiannau creadigol. Caiff y Clwstwr ei arwain gan Brifysgol Caerdydd mewn partneriaeth gyda Phrifysgol De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae gan bob un gryfderau penodol ym meysydd hyfforddi, ymchwil ac ymgysylltu â'r diwydiannau creadigol.

Darllenwch fwy am arbenigedd y tair prifysgol yma.

Cefnogir Clwstwr hefyd gan BBC Cymru Wales, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Caerdydd. 

Rydym yn cael ein hariannu gan Raglen Clystyrau’r Diwydiannau Creadigol, sy’n rhan o Strategaeth Ddiwydiannol y Deyrnas Unedig ac yn cael ei chyflawni gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC), a gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol.   

Ble mae Clwstwr wedi’i leoli?

Prif leoliad Clwstwr yw Neuadd Dinas Caerdydd, gyda mannau gweithio hyblyg a chyfleusterau yn:

Er bod Clwstwr yn gweithio gyda chwmnïau ledled Cymru, mae gweithgareddau wedi’u canolbwyntio yn Ninas-Ranbarth Caerdydd, sy'n cynnwys deg awdurdod lleol: Dinas Caerdydd, Bro Morgannwg, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen, Sir Fynwy, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, Caerffili, a Phen-y-bont ar Ogwr. 

I bwy mae Clwstwr?

Rydym yn bwriadu gweithio gyda chymaint o unigolion, busnesau a sefydliadau yn ein rhanbarth ag sy’n bosibl gan gynnwys gweithwyr llawrydd, BBaChau, sefydliadau mawr, darlledwyr, asiantaethau a mannau cydweithio.

Ceir sawl ffordd i gymryd rhan:

  • Tîm dynamig: Bydd ein tîm cyflawni Clwstwr yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i ffyrdd i ddatblygu’ch syniadau Ymchwil a Datblygu.
  • Amgylchedd arloesol Bydd Clwstwr yn datblygu ecoleg y sgrîn a’r newyddion, gan feithrin ac annog cydweithio ar draws sectorau creadigol.
  • Isadeiledd Ymchwil a Datblygu: Mae gennym gymysgedd o adnoddau, arbenigedd ac ymchwil sy’n cael ei guradu er mwyn darparu amgylchedd ymchwil a datblygu i gyfranogwyr yn rhaglen Clwstwr sydd wedi’i ddylunio i ddatblygu syniadau i’w potensial llawnaf posibl. 
  • Digwyddiadau: Mae ein digwyddiadau rheolaidd (e.e. cyfarfodydd, gweithdai, haciau) yn gyfleoedd i gwrdd â phobl newydd a dod o hyd i ysbrydoliaeth.   
  • Cyllid: Mae Clwstwr yn ariannu syniadau arloesol sy'n ymwneud naill ai â sgrin neu â newyddion a fydd yn arwain at gynhyrchion, gwasanaethau neu brofiadau newydd. Rydym eisiau cefnogi datblygiadau arloesol sydd â budd economaidd – sef creu, cynnal a thyfu busnesau – ac sy’n gwneud y byd yn lle gwell (callach, iachach, mwy amrywiol a diddorol).
  • Cyfnewid gwybodaeth: Rydym yn gweithio gyda'n seilwaith unigryw o arbenigedd ar draws diwydiant, y byd academaidd a'n cymunedau i ddod â syniadau, technoleg a gwybodaeth arloesol i ddatrys heriau creadigol. 
  • Rhwydweithio: Mae Clwstwr yn darparu achlysuron i gwrdd â phobl newydd, a gweithio gyda nhw, yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer dysgu rhwng cymheiriaid. 
  • Arbenigedd proffesiynol: Wrth weithio gyda’n rhwydwaith o bartneriaid Clwstwr yn y diwydiant, rydym yn darparu cymorth ar ffurf arbenigedd yn ôl y gofyn, e.e. cyngor ar eiddo deallusol, gwybodaeth am farchnadoedd rhyngwladol, masnacheiddio. 
  • Ymchwil: Mae gan gyfranogwyr Clwstwr fynediad at ymchwil prifysgol o’r radd flaenaf, ac mae’n bosibl y byddant yn cael y cyfle i gyfrannu ati. 
  • Adnoddau: Mae amrywiaeth o gyfleusterau a lleoedd yn y brifysgol ar gael, gan gynnwys stiwdio sgrin werdd pwrpasol ar gyfer ffilmio effeithiau gweledol a stiwdio cipio symudiadau a rhithwir Prifysgol De Cymru, Labordy Arloesedd Newyddion Prifysgol Caerdydd, a Labordy Profiadau Canfyddiadol (PEL) a FabLab Prifysgol Metropolitan Caerdydd. 
Clwstwr - how to get involved

Pa gyllid sydd ar gael?

Bydd cyllidebau’n amrywio yn ôl cwmpas yr arloesedd a gynigir. Ceir tair ffrwd cyllido Clwstwr:

Sbarduno: hyd at £10,000 am Ymchwil a Datblygu sydd ar gam cynnar ar gyfer gwaith cwmpasu neu i ddatblygu prawf o gysyniad. Disgwyliwn i'r prosiectau hyn gael eu cwblhau o fewn tri mis. Yna gall y prosiectau hynny lle mae'r Ymchwil a Datblygu yn dangos potensial sylweddol wneud cais am gyllid ar lefel prosiect. Fodd bynnag, i fod yn gymwys i gael cyllid ychwanegol, dylid cwblhau prosiectau Sbarduno erbyn mis Hydref 2021. 

Cyllid prosiect: £10,000 i £50,000 ar gyfer Ymchwil a Datblygu i arwain at gynnyrch/gwasanaeth/profiad yn barod i’w fasnacheiddio. Ar ôl cwblhau eich cam Ymchwil a Datblygu, byddwn am weld tystiolaeth y byddwch yn barod i symud i'r cam cynhyrchu refeniw, i gefnogi’r gwaith o ddatblygu neu gyflwyno eich cynnyrch, gwasanaeth neu brofiad newydd yn y dyfodol. Gall y prosiectau hyn bara am uchafswm o 12 mis (gan ddod i ben erbyn Mehefin 2022). 

Prosiectau trawsnewidiol: £50,000 i £100,000. Byddwn yn gwneud llai o ddyfarniadau ar y lefel hon – mae hyn ar gyfer prosiectau ymchwil a datblygu uchelgeisiol sydd â’r potensial i gael effaith drawsnewidiol: un ai ar  

  • sector y cyfryngau; 
  • twf eich busnes.  

Ar ôl cwblhau eich cam Ymchwil a Datblygu, byddwn am weld tystiolaeth gref y byddwch yn barod i symud i'r cam cynhyrchu refeniw, i gefnogi’r gwaith o ddatblygu neu gyflwyno eich cynnyrch, gwasanaeth neu brofiad newydd yn y dyfodol. 

At beth y gellir defnyddio’r cyllid?

Mae hon yn rhestr ddangosol nad yw’n gynhwysfawr o’r hyn y gellir gwario cyllid Clwstwr arno.

  • Costau prosiect uniongyrchol
  • Staffio
  • Datblygiadau technolegol
  • Marchnata a digwyddiadau
  • Dysgu a datblygu/ ymchwil defnyddwyr
A gaf i gyflwyno mwy nag un cais?

Rydym yn annog ymgeiswyr i ganolbwyntio ar un syniad ac ystyried pa mor ddwys yw’r prosiect. Byddwn yn ystyried ceisiadau ansafonol fesul achos unigol.

Oes modd i mi wneud cais eto os ydw i'n aflwyddiannus?

Oes, yn ystod pob cam, ein nod yw rhoi adborth adeiladol ichi, eich cyfeirio at gydweithwyr neu rwydweithiau posibl, a’ch helpu i lywio a mireinio eich syniadau prosiect.

Gallwch wneud cais i Clwstwr eto ar gyfer prosiect newydd neu wahanol, neu ar gyfer yr un prosiect cyhyd â’ch bod yn dangos eich bod wedi rhoi sylw i’r holl adborth a ddarparwyd ar eich cynnig gwreiddiol yn y cais newydd.

Dwi eisoes wedi derbyn cyllid Clwstwr, alla' i wneud cais am fwy?

Hoffem ni ariannu syniadau gan gymaint o unigolion a sefydliadau gwahanol ag sy'n bosibl yn ystod cylch bywyd Clwstwr i sicrhau gwelliant yn y sector sgrîn ledled de Cymru. 

Os ydych wedi derbyn cyllid Sbarduno Clwstwr (hyd at £10,000) ac mae'ch prosiect wedi'i gwblhau'n llwyddiannus ac yn edrych yn addawol, gallwch wneud cais am gyllid ychwanegol i gyflawni eich gwaith Ymchwil a Datblygu a symud tuag at fasnacheiddio. 

Ni fyddem fel arfer yn disgwyl ceisiadau am fuddsoddiad ychwanegol gan ymgeiswyr sydd eisoes wedi derbyn cyllid Prosiect Clwstwr neu Gyllid Trawsnewidiol (£10-000 - £50,000+). Byddem yn gweithio'n agos gyda chi i ymchwilio i gyfleoedd cyllid pellach a phartneriaid posibl a allai eich helpu chi i gyflawni eich targedau mwy hirdymor. 

Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd amgylchiadau esgusodol lle bydd buddsoddiad pellach gan Clwstwr ar gael, a dylai unrhyw un sy'n ystyried ymgeisio am fuddsoddiad pellach gan Clwstwr feddwl yn ofalus am y gofynion pellach:

  • Byddwn yn disgwyl gweld llwybr clir at fasnacheiddio a/neu fudd economaidd yn eich cais;
  • Byddwn yn llai goddefgar o risgiau;
  • Byddwn yn disgwyl gweld tystiolaeth glir o alw am y cynnyrch/gwasanaeth/profiad newydd;
  • Yn unol â rheolau Cymorth y Wladwriaeth am gamau olaf Ymchwil a Datblygu (Datblygiad Arbrofol), byddwn yn disgwyl gweld lefel sylweddol o gyllid cyfatebol gan yr ymgeisydd a/neu fuddsoddwyr trydydd parti, gan arddangos ymrwymiad pellach i'r cynnyrch/gwasanaeth/profiad newydd.

Bydd yr aseswyr yn ystyried y pwyntiau hyn yn ogystal â'r meini prawf presennol.


Ni allwn gefnogi

Mae Clwstwr yn ymwneud â gweithgaredd arloesol ac mae’n mynd y tu hwn i fusnes fel arfer, ac yn creu cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau newydd. Nid cronfa ar gyfer busnes fel arfer yw Clwstwr, yn comisiynu ffurfiau traddodiadol ar gynnwys neu hyfforddiant. Mae’n bosibl y bydd cronfeydd eraill ar gael oddi wrth ffynonellau eraill ar gyfer y gweithgareddau hyn a gall tîm Clwstwr eich cyfeirio at y rheiny.

Beth am Eiddo Deallusol? (IP)

Bydd pob cwmni ac unigolyn yng Nghymru yn cadw’r eiddo deallusol y mae’n ei ddatblygu wrth gymryd rhan yn rhaglen Clwstwr. Ein nod yw adeiladu clwstwr creadigol cynaliadwy a llewyrchus yn Ne Cymru – i weld busnesau newydd yn dod i’r amlwg a busnesau presennol yn tyfu. Os bydd prosiectau’n dewis gwerthu Eiddo Deallusol (a ddatblygwyd gyda chymorth rhaglen Clwstwr) i gwmnïau y tu allan i Gymru, rydym yn cadw’r hawl i adolygu’r trefniant hwn.

Beth sy’n digwydd i’r wybodaeth rydym yn ei rhannu â Clwstwr?

Ethos Clwstwr yw annog gwaith ar y cyd ar draws y sector er budd pawb.  Rydym yn cydnabod bod angen i bawb dan sylw ymddiried yn ei gilydd er mwyn gwneud hyn. Os ydych yn poeni am rannu gwybodaeth gyda ni, dywedwch wrth aelod o’r tîm.

Defnyddio gwybodaeth: Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth rydych yn ei rhoi i gyflawni, rheoli, nodi a gwerthuso gweithgareddau sy’n dod o dan raglen Clwstwr. Gall Prifysgol Caerdydd a’i phartneriaid gynnal gwaith ymchwil sy’n ymwneud â gweithgareddau Clwstwr, i helpu i gael mewnwelediadau sy’n addas i’w rhannu, ac er mwyn asesu effaith y profiadau a’r rhaglen ei hun. Gallai hyn gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) creu astudiaethau achos neu dystebau y byddai disgwyl i dimau gyfrannu atynt.

Gellir dod o hyd i’n polisi preifatrwydd llawn yma.

Cyfrinachedd: Os ydych yn dymuno ein bod ni a’r bobl rydym yn gweithio gyda nhw yn trin gwybodaeth yn gyfrinachol, gwnewch hyn yn glir iawn, a nodwch fod y deunydd yn gyfrinachol.   Byddwn yn ystyried cytundebau i beidio â datgelu gwybodaeth mewn amgylchiadau eithriadol yn unig.

Fel corff cyhoeddus, efallai y bydd angen inni ddatgelu gwybodaeth gyfrinachol oherwydd ein rhwymedigaethau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (neu ddeddfwriaeth berthnasol arall) neu i arianwyr rhaglen Clwstwr ac aelodau o’r grŵp llywodraethu.

Cyhoeddusrwydd: Efallai y byddwn hefyd yn hyrwyddo eich prosiect fel rhan o’n gweithgarwch cyfathrebu. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am gysylltiadau cyhoeddus neu sylw yn y wasg, anfonwch ebost at ein tîm cyfathrebu.

Beth yw’r prif ofynion adrodd ar gyfer dyfarniadau Clwstwr llwyddiannus?  

Bydd aelod o’r tîm Clwstwr yn gweithio gyda’r Arweinydd Prosiect llwyddiannus i gwblhau unrhyw ddogfennau prosiect hanfodol a Chytundeb Grant Clwstwr, ac yna’n cysylltu â chi i adrodd am gynnydd eich prosiect wrth i chi ddechrau ei gyflawni. Bydd eich Cynhyrchydd Clwstwr yn gallu rhoi cyngor a chymorth i sicrhau bod eich prosiect yn cydymffurfio â’n telerau a’n hamodau, ond nid yw’n gyfrifol am reoli’r prosiect. 

Trwy gydol eich prosiect, byddwch yn cwblhau nifer fach o gyfarfodydd Carreg Filltir gyda'ch Cynhyrchydd Clwstwr.  Mae'r rhain er mwyn sicrhau bod eich Ymchwil a Datblygu yn mynd yn dda a byddwch yn adrodd ar eich cynnydd hyd yma a'ch camau nesaf. Bydd y cyfarfodydd hyn yn sbarduno'ch taliad nesaf gennym a bydd disgwyl i chi lenwi Ffurflen Hawlio Taliad a'n hanfonebu am y swm nesaf.  

Ar ddiwedd eich prosiect, byddwch yn cwblhau Adroddiad Terfynol byr a byddwn yn gofyn i chi weithio gyda ni i greu astudiaeth achos yn seiliedig ar eich gwaith. 

Pa ddogfennaeth fydd ei hangen arnoch chi pan fyddaf yn gwneud cais? 

Fel lleiafswm, dyma’r dogfennau rydym yn disgwyl gofyn ichi amdanynt:

Telerau ac Amodau’r Cytundeb Grant: Mae’n ofynnol i Arweinydd Prosiect lofnodi a dychwelyd Llythyr Cynnig Grant cyn y gellir hawlio unrhyw gostau ar y prosiect.

Cysylltiadau a enwebir: Byddwn yn gofyn ichi gadarnhau cyswllt ar gyfer y prosiect (ar gyfer cyflawni’r prosiect yn weithredol o ddydd i ddydd) a chyswllt ariannol (yn gyfrifol am ddarparu unrhyw wybodaeth angenrheidiol i gwblhau gwiriadau diwydrwydd dyladwy ariannol neu i fynd i’r afael â gwastrodion ar y gyllideb, ac a fydd yn awdurdodi hawliadau ariannol i’w cyflwyno).

Cyfrif banc a manylion ariannol eraill yn ôl y gofyn: er mwyn inni allu trefnu taliadau ar eich cyfer. Byddwn hefyd yn gofyn am sicrwydd neu dystiolaeth o ffynonellau eraill o gyllid cyfatebol a nodir yn eich cyllideb.

Taliadau, hawliadau ariannol: Mae’r costau’n gymwys os ydynt yn codi ac yn cael eu talu rhwng dyddiad dechrau a gorffen y prosiect yn unig. Byddwn yn rhoi ffurflen Hawlio Ariannol a chanllawiau ar gyflwyno’r ffurflen hon ichi. Mae ein taliadau cyntaf ymlaen llaw (e.e. wrth lofnodi'r contract, ar eich pwyntiau cerrig milltir).  Bydd eich taliad olaf mewn ôl-ddyledion ar ôl cyflwyno'ch adroddiad terfynol. Rydym yn disgwyl i grantiau gael eu hawlio’n unol ag amserlen o daliadau y byddwn yn cytuno arni â chi, ac yn erbyn cerrig milltir prosiect y cytunwyd arnynt. 

Cadw ac archwilio dogfennau: Dylech gael systemau ariannol ar waith i gadw’r holl gofnodion sy’n ymwneud â phrosiect am o leiaf deng mlynedd ar ôl iddo ddod i ben. Efallai y byddwn yn ymweld â chi i adolygu’r cofnodion hyn, neu ofyn ichi ddarparu rhagor o dystiolaeth ategol i fodloni gofynion o dan ein rheoliadau neu archwiliadau ein hunain o arianwyr rhaglen Clwstwr – mae hyn yn aml ar fyr rybudd. Rhoddir canllawiau pellach i Arweinwyr Prosiect am hyn (wrthi’n cael eu datblygu a’u hadolygu ar hyn o bryd).

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng ‘dichonoldeb’, ‘datblygiad arbrofol’ neu ‘ymchwil ddiwydiannol’ (Gweithgarwch Y&D) 

Gofynnir i ymgeiswyr gategoreiddio eu prosiect fel un o’r mathau hyn o weithgarwch ymchwil a ddiffinnir isod. 

Pennir y math o weithgarwch ymchwil gan aeddfedrwydd eich cynnyrch, proses neu wasanaeth. 

Mae hefyd yn pennu lefel y cyllid grant y gallwn ei gynnig, a chyfran y cyllid cyfateboly mae disgwyl i ymgeiswyr ei gyfrannu.  

Astudiaeth ddichonoldeb: Cam cynnar ymchwil a datblygu yw hwn fel arfer. Fel arfer, byddwch yn mynd i'r afael â mater, angen neu broblem, yna'n ymchwilio, datblygu a chreu prototeip cam cynnar o gynnyrch, gwasanaeth neu brofiad newydd. 

Ymchwil ddiwydiannol: Dyma'r cam ymchwil a datblygu lle mae'ch syniad, neu'ch prototeip, yn cael ei fireinio a'i brofi.  Gall hyn gynnwys gweithio gyda nifer o ddefnyddwyr prawf a fydd yn cynnig adborth i'ch galluogi i fireinio'ch syniad i greu'r fersiwn orau posibl cyn ei fod yn barod ar gyfer marchnad. 

Datblygu arbrofol: Fel arfer, hwn yw cam olaf y broses ymchwil a datblygu lle rydych chi'n dilysu'ch gwaith mewn lleoliad bywyd go iawn. Gall hyn gynnwys gweithgareddau sydd â'r nod o brofi, gwerthuso a diffinio'r cynnyrch, gwasanaeth neu brofiad sydd bron yn derfynol gyda defnyddwyr terfynol tebygol.   

Caiff yr amodau hyn eu pennu gan ddeddfwriaeth Cymorth y Wladwriaeth. Gallwch ddarllen mwy am y diffiniadau hyn o ymchwil a datblygu yma.