Rony Seamons, Prif Swyddog Gweithredu AMPLYFI, sy'n trafod ei brofiad o weithio ar brosiect Clwstwr.

AMPLYFI

Cwmni yng Nghaerdydd yw AMPLYFI sy'n chwyldroi deallusrwydd busnes. Mae ei dechnolegwyr, academyddion ac arbenigwyr sector yn datblygu ffyrdd o gasglu data drwy AI, chwilio dwfn a thechnolegau uwch eraill, gan alluogi eu cleientiaid i gael dealltwriaeth wrthrychol a all eu sbarduno ymlaen.

Clywsom ni am gyllid Clwstwr mewn cyd-ddigwyddiad lwcus

Ym mis Ebrill 2019 cawsom wahoddiad i siarad mewn digwyddiad BBC Digital Cities yng Nghaerdydd. Siaradodd yr holl gyflwynwyr am sut mae ein technoleg AI yn cael ei defnyddio mewn busnesau, rhywbeth a ganodd gloch gyda'r rheini oedd yn bresennol o'r diwydiannau creadigol - yn enwedig rhai newyddiadurwyr. Roedd rhai o'r newyddiadurwyr hyn yn meddwl y gallai'r hyn roeddem ni'n ei wneud gael defnydd helaeth mewn newyddiaduraeth, gan sôn wrthym fod cynllun Clwstwr ar fin dechrau. 

Cyflwynom ni gais am gyllid am ein bod yn awyddus i'n sgiliau helpu diwydiant arall

Mae AMPLYFI yn canolbwyntio ar gyllid, yn enwedig ‘Deall eich Cwsmer', 'Deall eich Busnes', gwrth-wyngalchu arian a chysylltiadau yn y sector cyllid. Roeddem ni'n gweld hwn fel cyfle i groesi i sector gwahanol iawn, cyfle i dreiddio i farchnad newydd sbon gyda phartneriaid ym maes newyddiaduraeth. 

Fel arbenigwyr technoleg, rydym ni bob amser yn awyddus i greu partneriaeth gyda phobl sy'n deall eu diwydiant oherwydd gallwn greu cynhyrchion sy'n bodloni anghenion penodol. Byddai'n hawdd i ni fod wrthi gyda'n codyddion yn creu technoleg wallgof nad oes neb am ei phrynu, ond roedd y syniad o greu partneriaeth gyda newyddiadurwyr ar lawr gwlad yn sbardun cryf i ni.

Cawsom £60,000 o gyllid gan Clwstwr i wneud ymchwil marchnad

Cyn gynted ag y cawsom ni'r cyllid, aethom ati i ddechrau deall sut mae'r diwydiant newyddiaduraeth yn gweithio. Cynullom ni fwrdd golygyddol o ddylanwadwyr allweddol yn yr ecosystem gyfryngol leol, oedd yn cynnwys pobl o JOMEC (Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd) a phobl oedd â chysylltiadau â'r cyfryngau. Eu tasg nhw fyddai ein herio ni drwy gydol y prosiect a'n helpu i gyfarfod â newyddiadurwyr, golygyddion ac eraill yn y diwydiant. Creom ni gymuned defnyddwyr yn cynnwys o ddeutu 40 o newyddiadurwyr gweithredol ar draws y diwydiant, y rhan fwyaf o Gaerdydd. 

Roedd cael newyddiadurwyr gweithredol yn ein grŵp defnyddwyr yn cynnig dealltwriaeth wych i ni

Buom ni'n rhyngweithio gyda'n grŵp defnyddwyr drwy weithdai a sgyrsiau un-i-un. Ein prif nodau oedd cael darlun o ddiwrnod ym mywyd newyddiadurwr a dilysu ein cynlluniau. Darganfyddon ni sut beth yw bod yn newyddiadurwr, pa broblemau maen nhw'n eu hwynebu, pa dasgau dyddiol rheolaidd sy'n cymryd amser gwerthfawr, pa offer maen nhw'n eu defnyddio a beth oedd yn peri anhawster. Y bwriad oedd gweld a allem ni greu offeryn fyddai'n tynnu rhai o'r tasgau fyddai'n cymryd llawer o amser oddi ar y newyddiadurwyr er mwyn iddyn nhw ganolbwyntio ar ysgrifennu.

Helpodd ein dadansoddiad ar ôl y gweithdy i fireinio ein cynlluniau

Roeddem ni am greu cynnyrch y gellir ei fasnacheiddio a'i gyflwyno i'r farchnad. Felly meddyliom ni am bedair taith defnyddiwr a senario gwahanol y gallem ddatblygu cynnyrch iddynt a defnyddion ni ein data i ddewis yr opsiwn mwyaf hyfyw ar gyfer y cam nesaf. Sgorion ni bob taith ar bethau fel pa mor fasnachol yw'r syniad, pa mor realistig yw datblygu cynllun a pha mor agos yw hyn at yr hyn rydym ni'n ei wneud eisoes. Dyna sut y penderfynon ni ar yr un i'w ddatblygu.

Gall ein AI gyflymu'r amser mae'n ei gymryd i newyddiadurwyr ddod o hyd i ffeithiau a ffynonellau dibynadwy a pherthnasol. 

Gallai ein technoleg wneud beth sy'n cymryd oriau i newyddiadurwyr mewn un chwiliad 

Disgrifiodd yr Athro Justin Lewis (cyfarwyddwr Clwstwr) newyddiaduraeth ymchwiliol fel ceisio cyrraedd tras stori - rhaid i chi dynnu’r haenau i gyrraedd y ffynhonnell, gan ganfod cysylltiadau rhwng pobl sy'n rhan o'r stori. Mae'n dasg lafurus a chaled gyda llawer o dyllau cwningod y gallwch syrthio iddynt. Gallai system AI hidlo dogfennau enfawr, fel y rheini a gynhyrchwyd yn sgandal Papurau Panama, drwy raglen arbenigol, ac o fewn munudau, ganfod yr holl enwau allweddol, y chwaraewyr allweddol a'u cysylltiadau.

Gallem greu technoleg AI fel y gallai weithredu fel peiriant chwilio

Beth bynnag yw'r newyddion - person, pwnc, thema neu wlad - byddech chi'n teipio ymholiad chwilio a gwylio wrth iddo adalw'r holl ffynonellau perthnasol i lunio diagram o gysylltiadau o gwmpas y pwnc. Byddai hyn yn cael ei wneud ar wib, chwilota cofnodion llys, cofrestrfa tir a phob math o adnoddau sy'n cymryd oriau i fynd drwyddynt â llaw.

Un o'r pethau sy'n unigryw ni yw ein bod yn cyrraedd y pethau nad yw Google y gallu eu cael

Pan ewch i chwilio ar Google, mae'n dweud bod miliynau o ganlyniadau, ond dim ond rhai cannoedd y gall eu dangos i chi. Mae hyn oherwydd ei fod yn gwybod bod y canlyniadau ar gael a gall eu mynegeio, ond am ryw reswm ni all eu cyrchu. Gyda'r algorithmau rydym ni wedi'u creu, gallwn osgoi'r rhwystrau hyn ac adalw'r canlyniadau. 

Mae Google yn arf marchnata. SEO, hysbysebion y telir amdanynt ac ati sy'n gyrru ei chwiliadau i gyd, felly mae’n bosibl nad y pethau ar y dudalen gyntaf yw'r mwyaf perthnasol: ond dyma'r pethau mae Google yn eu gwthio i'r brig. Gall hyn fod yn beryglus i newyddiadurwyr, oherwydd ni fydd o reidrwydd yn dangos y peth mwyaf perthnasol neu hyd yn oed beth sy'n wir.

Rydym ni'n deall llawer mwy am y sector ar ôl yr ymchwil a datblygu hwn

Mae pell ffordd i fynd, ond gallwn nawr ffurfio'r cynnyrch i greu offeryn gwirioneddol ddefnyddiol y mae angen a galw amdano ymhlith newyddiadurwyr. Rydym ni wedi cwblhau'r ymchwil marchnad a'r dilysu sydd ei angen, felly hoffem gael y cyllid ar gyfer cam dau. Byddem yn ei ddefnyddio i greu rhywbeth sydd mor agos at gynnyrch sy'n barod i'r farchnad ag sy'n bosibl drwy gam adeiladu peirianneg llawn. Unwaith y bydd y cynnyrch wedi'i gwblhau, gallwn ei weld yn cael ei werthu ar sail tanysgrifio i endidau cyfryngol mawr fel y BBC a CNN.

Mae'r cylch hwn o ymchwil a datblygu wedi teimlo'n well na llawer o'r un math o waith rydym ni wedi'i wneud gyda chyllidwyr

Mae rhai partneriaid cyllido'n gallu bod yn amharod i ymateb i gwestiynau felly i raddau helaeth rydych chi ar eich pen eich hun. Gyda Clwstwr, roedden ni'n teimlo bod y tîm yn awyddus i helpu pob prosiect i lwyddo. Roedd Clwstwr mor barod i roi adborth, cyfrannu a helpu i siapio pethau. Rydym ni'n llawn cyffro ynghylch y datblygiadau nesaf.

Dewch i wybod mwy am brosiect Clwstwr AMPLYFI, Deallusrwydd Artiffisial yn yr Ystafell Newyddion.