Peter Rogers, rheolwr gyfarwyddwr Bait Studio, sy'n rhannu ei brofiad Clwstwr.
Stiwdio effeithiau gweledol a dylunio symud boutique yw Bait Studio ym Mae Caerdydd. Mae'r tîm o 10 yn gweithio ar VFX a dylunio symud i deledu, ffilmiau, teitlau, hysbysebu, fideos cerddorol a mwy
Ein prosiect Clwstwr oedd dod o hyd i ffyrdd y gallwn weithio o bell ac yn gydweithredol.
Roedden ni'n gwybod bod angen i stiwdios gael tîm rhithwir yn gweithio ar draws safleoedd niferus i ddiogelu'r hyn maen nhw'n ei wneud at y dyfodol. Hefyd, o'n profiad ni yn cydbwyso dylunio symud ac effeithiau gweledol, roedden ni'n gwybod bod angen dod o hyd i ffyrdd i'r ddwy adran gydweithio'n well. Maen nhw'n gweithio ychydig yn wahanol ac yn defnyddio meddalwedd gwahanol felly roedden ni am ddod o hyd i brosesau neu blatfform fyddai'n gosod popeth mewn un lle i'w gyrchu o bell.
Roeddem ni wedi treulio cwpwl o flynyddoedd yn ceisio dod o hyd i ffordd well o weithio.
Ceision ni ollwng darnau o feddalwedd ac ychwanegu rhai eraill, ond roedd hyn ond yn ychwanegu pethau gwahanol oedd yn gweithio ar eu pen eu hunain. Doedden ni ddim yn gallu dod o hyd i'r datrysiad gorau, a doedd byth amser gennyn ni i aros; roedden ni'n gweithio drwy'r amser. Parhaon ni i weithio arno fel prosiect ymylol, ond bod tro roedden ni'n dod ato roedd pethau wedi newid, felly doedden ni byth yn gwneud fawr o gynnydd. Roedd angen i ni ddod allan o'r arfer o wneud pethau oedd er lles ein cleientiaid yn unig, a dechrau gwneud pethau fyddai o fudd i'r busnes mwy yn y tymor hir.
Rhoddodd cyllid Clwstwr y cyfle i ni ddweud,
Mae hwn yn beth pwysig i'w wneud a gyda chyllid fydd dim angen i ni fod ar ein colled yn ariannol; gallwn ni roi amser iddo.
Ymgeision ni am gyllid i adeiladu rhaglen ond cynghorwyd ni i weithio ar raddfa lai.
Yn y pen draw, astudiaeth dichonoldeb oedd y prosiect i weld beth fyddai'n bosibl. Ar y pryd roedden ni'n siomedig iawn; roedden ni'n dymuno mynd amdani. Ond o edrych yn ôl, rwy'n falch. Pe baen ni wedi mynd yn syth i adeiladu'r platfform llawn, fydden ni wedi creu'r hyn oedd yn ateb cywir yn ein meddwl ni, ond nid dyna o reidrwydd beth oedd ei angen.
Roedd yr astudiaeth dichonoldeb yn holi a fyddai'n well adeiladu rhywbeth newydd, cyfuno'r hyn oedd gennyn ni’n barod ac adeiladu arno neu weithio ar yr hyn oedd gennyn ni.
Ychwanegon ni gyllid cyfatebol i'r £10,000 gan Clwstwr i gyflogi ymgynghorydd a chynnal profion.
Dechreuodd Matt, yr ymgynghorydd, drwy asesu'r hyn roedden ni'n ei wneud eisoes. Awgrymodd rai pethau cyflym i leddfu'r sefyllfa, yna cyfunodd arsylwi ac ymchwil pen desg i ystyried y problemau mwy o faint. Treuliodd amser ar y safle gyda phawb, yn holi cwestiynau am eu proses, sut maen nhw'n gweithio ac unrhyw wasgfa sy'n eu hatal rhag gweithio'n iawn.
Dangosodd adborth ar ein ffordd o weithio i ni nad yw ein problemau'n unigryw.
Siaradon ni gyda stiwdios o faint cyffelyb i ni, rhai'n lleol a rhai dramor, i gymharu a chyferbynnu beth rydyn ni'n ei wneud. Yna holon ni ein gweithwyr llawrydd allweddol sut gyflogwyr ydyn ni o'n cymharu â phobl eraill. Roedd pawb i'w gweld â'r un problemau, oedd yn dilysu ein sefyllfa ac yn dangos i ni y gallai unrhyw beth a fyddai'n ein helpu ni hefyd helpu busnesau eraill. Roedd y ddogfen derfynol oedd yn crynhoi holl ganfyddiadau'r astudiaeth o ddeutu 45 tudalen o hyd; mae gennyn ni fframwaith ysgrifenedig nawr y gallwn ni adeiladu arno, a chynllun o'r hyn y gallwn ni ei wneud a ble gallwn ni fynd yn y dyfodol.
Yn hytrach na chael gwared ar bopeth a dechrau eto, mae wedi awgrymu ffordd i ni symud ymlaen.
Beth bynnag fydd yn digwydd nesaf, rydyn ni eisoes yn fwy effeithlon.
Mae'r astudiaeth wedi rhoi syniad cliriach i ni sut y gallwn ni ddatblygu ychwanegiadau neu bortholion ychwanegol i gefnogi'r meddalwedd mae'r diwydiant yn dibynnu arno ar hyn o bryd yn hytrach na chreu rhywbeth o'r newydd. Rwy'n credu mai dyma lle rydyn ni'n mynd: creu offerynnau a all eistedd ochr yn ochr â meddalwedd parod ac o bosib eu masnachu i bobl eraill. Wrth fynd drwy'r broses, rydyn ni wedi bod yn siarad mwy gyda darparwyr meddalwedd. Maen nhw nawr yn deall yn well beth sydd ei angen arnon ni a ble rydyn ni'n mynd er mwyn gallu ein cefnogi ni'n well, sy'n werthfawr iawn.
Mae cyllid ymchwil a datblygu'n wahanol i'r hyn oeddwn i'n ei ddisgwyl; mae'n well.
Mae'n anodd dychmygu beth yw ymchwil a datblygu yn y sector creadigol. Hyd yn oed wrth ymgeisio am y cyllid, doedd rhai ohonon ni ddim yn siŵr beth oedden ni'n gofyn amdano. Nawr ein bod wedi bod drwyddo, gallaf weld sut mae treulio amser yn edrych dan fonet y busnes a dadansoddi'r diwydiant wedi gwneud gwahaniaeth enfawr. Ar y dechrau mae'n anodd gweld y pethau cadarnhaol haniaethol a all ddeillio o'r pethau hyn, ond rydyn ni'n bendant wedi newid ein ffordd gyfunol o feddwl. Mae wedi fy atgoffa fod amser meddwl yn rhywbeth pwysig iawn.