Ynghylch Bwlb

Mae Bwlb yn gwmni arloesi sydd â'r nod o gynnig arbenigedd, buddsoddiad, a llwyddiant drwy greu cynnwys a chynhyrchion. Mae'r enw yn cyfeirio at yr ymadrodd Saesneg 'light bulb moment' i ddisgrifio’r broses o feddwl am syniad. Sefydlwyd Bwlb gan Andy Taylor, a ddechreuodd y cwmni ar ôl gweithio ym maes radio a sain am ddau ddegawd.

Fe wnaeth cyfnod tawel yn fy ngwaith arwain at ddarganfod Clwstwr.

Rwy'n treulio llawer o amser yn creu podlediadau i bobl ac yn helpu pobl eraill i’w creu. Yn ystod cyfnod tawel, penderfynais edrych ar wneud rhywbeth gwahanol ac arloesol. Dyna pryd clywais i am raglen Clwstwr, sy’n rhoi pwyslais ar arloesedd.

Cefais gyfle i gwrdd ag un o gynhyrchwyr Clwstwr, Gavin Johnson, i siarad am gyfleoedd ariannu.

Bryd hynny, roeddwn i’n ystyried gwneud cais i fod ar Labordy Syniadau Clwstwr, rhaglen sy'n eich cyflwyno i fyd ymchwil a datblygu a sut mae’n gweithio. Fodd bynnag, roeddwn i am gael cipolwg ar y mathau o syniadau y mae Clwstwr yn eu cefnogi. Soniodd Gavin am y mathau o syniadau sy'n gweithio'n dda ar gyfer ymchwil a datblygu, sut maen nhw’n amrywio o syniadau penodol sy’n llenwi bwlch mewn diwydiant, i syniadau uchelgeisiol amhenodol. Dywedodd hefyd fod gwaith ymchwil a datblygu gwych yn gallu ddigwydd pan fydd gennych chi syniad am rywbeth sy’n gallu gwneud bywyd yn haws.

Dywedais i wrth Gavin y byddwn i’n hoffi creu rhywbeth i ddatrys problem a gafodd e y bore hwnnw.

Roedd Gavin yn teimlo’n rhwystredig ynglŷn â’r ffaith nad oedd e’n gallu gorffen gwrando ar bennod gyfan o'i hoff bodlediad ar y trên i'n cyfarfod. Roedd y bennod yn 42 munud o hyd, ond dim ond 27 munud oedd ei daith ar y trên, felly bu’n rhaid iddo golli’r 15 munud olaf. Fel arfer, y rhan olaf yw’r rhan sy’n cynnwys y darnau gorau. Dywedais i wrth Gavin, yn seiliedig ar fy ngwybodaeth am sain, fy mod i’n credu y byddai modd gwneud rhywbeth i addasu hyd podlediadau i gyd fynd â faint o amser rydych chi’n disgwyl y bydd gennych chi i wrando arno. Dyna lle dechreuodd y syniad ar gyfer fy nghynnyrch, Accordion. Roeddwn i eisiau creu rhywbeth sy'n eich galluogi chi i reoli hyd y podlediad, heb effeithio ar y dôn, strwythur na hwylustod y gwrando.

Es i mewn i Lab Syniadau Clwstwr gyda chwpwl o syniadau gwahanol.

Drwy’r rhaglen, dysgais i ddigon am ymchwil a datblygu i allu gwneud cais am gyllid, a chefais gyfle i ddeall yr holl bethau mae’n rhaid i chi eu gwneud. Roedd yn ddefnyddiol dysgu sut i ddangos pam mae rhywbeth yn werth ymchwilio iddo yn eich barn chi, sut mae mynd ati i wneud hynny, a sut i brofi nad ydych chi'n mynd i mewn gydag ateb ymlaen llaw. Fe wnaeth y tîm ein hannog ni i weithio drwy rai o'n syniadau ein hunain, ac yna dewis un syniad y gallen ni ei ddefnyddio i wneud cais am gyllid sbarduno. Dewisais i wneud cais am arian i ddatblygu fy syniad ar gyfer hyd podlediadau, o’r enw 'SMART Podcasts' bryd hynny. Roeddwn i eisiau edrych ar bodlediadau clyfar a beth allai fod yn bosibl yn y dyfodol.

Fe wnes i gais llwyddiannus am gyllid sbarduno gan Clwstwr.

Daeth Gavin yn gynhyrchydd Clwstwr i mi o'r pwynt hwnnw ymlaen, ac roedd hynny’n wych gan ei fod wedi bod gyda mi ar fy nhaith Clwstwr o'r cychwyn cyntaf. Roedd rhan gyntaf fy mhrosiect sbarduno yn cynnwys ymchwil wrth fy nesg. Treuliais fis yn ymchwilio i'r hyn sy'n bodoli, yr hyn oedd yn bosibl, a’r rhannau o’r diwydiant lle gellid arloesi. Datblygais restr o syniadau ar gyfer prosiectau ymchwil a datblygu posibl ym maes podlediadau clyfar, ond roeddwn i’n fwyaf awyddus i weithio ar y syniad a ddaeth i’m meddwl pan siaradais â Gavin ar y dechrau.

Cefais gymorth gan ddau arbenigwr llawrydd i droi fy syniadau’n realiti.

Wrth ddatblygu fy syniadau a dau brototeip ar gyfer yr ail gam, roedd adegau lle roeddwn i’n cael trafferth gweld sut i gael cysyniadau allan o fy mhen ac ar y sgrin fel rhaglen go iawn a oedd yn gweithio. Gofynnais am argymhellion ynglŷn â phwy i droi ato gan Gavin a phobl roeddwn i wedi gweithio gyda nhw yn y gorffennol. Cefais hyd i Matt Brealey, datblygwr gwe, a Rebecca Saw, rhaglennydd, a ymunodd â’r prosiect i helpu i greu fy mhrototeipiau.

Creais ddau brototeip i dreialu fy nghysyniadau.

Dangosodd y prototeip cyntaf fod modd gwneud podlediadau’n fyrrach a cadw’r tôn, strwythur a hwylustod y gwrando. Bryd hynny, nid oedd unrhyw awtomeiddio yn rhan ohono, dim ond fi yn gweithio’n hwyr iawn gyda’r nos yn golygu sain! Fe wnaeth yr ail brototeip ddangos bod modd i'ch ffôn clyfar ddefnyddio eich data GPS hanesyddol am eich teithiau rheolaidd i ddewis yr hyd cywir ar gyfer eich ffeil sain i’w chwarae y tro nesaf y byddech chi’n gwneud y daith honno. Ar ôl creu'r rhain, roeddwn i’n teimlo bod mwy botensial i fynd â’r prototeip cyntaf ymhellach; mae'r hyn y mae'r ail brototeip yn ei gyflawni yn rhywbeth y gellid ei gyfuno â'r prototeip cyntaf yn y dyfodol, neu ei gadw ar wahân, ond doeddwn i ddim am ei ddatblygu ymhellach am y tro.

Yn seiliedig ar y gwaith hwn, fe wnes i gais llwyddiannus i Clwstwr am gyllid prosiect.

Defnyddiais y cyllid prosiect i ddatblygu'r prototeip cyntaf. Roeddwn i am iddo allu gwneud yr addasiadau i hyd podlediadau heb ddibynnu ar rywun i olygu'r sain i gyd. Ar gyfer hyn, datblygais algorithm sy'n galluogi awtomeiddio cywir.

Mae'r Cynnyrch Hyfyrw Lleiaf wedi cyrraedd pwynt lle rwy’n gallu ei gyflwyno i ddarpar fuddsoddwyr.

Mae'n wych gallu cyflwyno’r cynnyrch i bobl eraill a dangos yr hyn mae’n gallu ei wneud, er mwyn ennyn diddordeb pobl, a gyda lwc, denu buddsoddiad ar gyfer Accordion. Galla i ddim rhannu na chyhoeddi llawer o wybodaeth am yr algorithm na sut mae Accordion yn gweithio; rhan o fy mhrofiad Clwstwr oedd cael cyngor cyfreithiol ac ymchwilio i batentau, a oedd yn ddefnyddiol iawn. Rydw i wedi gwneud cais am batent rhyngwladol ar gyfer Accordion.

Mae’r hyn rydw i wedi’i greu gyda fy nghyllid prosiect Clwstwr wedi fy ngalluogi i lansio cynllun peilot.

Gyda Matt a Rebecca yn dal i fod ar y tîm, rydyn ni wedi symud ymlaen ers hynny i'r cam datblygu nesaf. Eto, dechreuodd y cam hwn o ganlyniad i Clwstwr; dywedodd rhywun o dîm Clwstwr wrtha i am gynllun Ewropeaidd o'r enw Stars4Media, sy'n annog gwahanol gwmnïau cyfryngau o wledydd yn Ewrop i gydweithio.

Yn dilyn cais llwyddiannus i Stars4Media, maen nhw bellach yn ariannu menter gydweithredol gydag Europod, cwmni podlediadau o Wlad Belg. Mae Europod wedi cynhyrchu podlediad 10 rhan am Angela Merkel, ac rydyn ni’n defnyddio hwn fel y gyfres gyntaf y mae’r cyhoedd yn gallu defnyddio Accordion ar ei chyfer. Os ydych chi’n mynd i www.accordion.live, rydych chi’n gallu dewis pennod a dewis hyd.

Accordion screengrab which reads: Podcasts to fit your time. Accordion gives you control of duration without losing structure, tone or listenability

Nawr, mae Accordion o dan bwysau amgylchedd masnachol, proffesiynol. Rydyn ni wedi dod yn bell ers y sgwrs anffurfiol a gefais ar y dechrau gyda Gavin, diolch i Clwstwr a Stars4Media. Yr her nesaf yw cael llawer o adborth gan ddefnyddwyr ynglŷn ag Accordion fel y mae ar hyn o bryd, yna gallwn geisio ei wneud yn gynnyrch gwell fyth.