Canolfan Ffilm Cymru

Mae Canolfan Ffilm Cymru yn dathlu sinema. Mae'n cefnogi sefydliadau sy'n sgrinio ffilmiau, gyda'r nod o ddod â'r ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol gorau i gynulleidfaoedd ledled Cymru a'r DU. Mae'r Ganolfan yn rhan o Rwydwaith Cynulleidfaoedd Ffilm ar draws y DU, sy'n cynnwys wyth hwb a gyllidir gan Sefydliad Ffilm Prydain. Mae'n arwain strategaeth Sinema Gynhwysol y DU ar ran y rhwydwaith.

Mae'r sîn sinema yng Nghymru'n fwy o lawer nag mae llawer o bobl yn sylweddoli

Mae dros 300 o sefydliadau yng Nghymru'n sgrinio ffilmiau i gynulleidfaoedd cyhoeddus, sy'n cynnwys dros 70 o sinemâu annibynnol drwy gydol y flwyddyn. Hanfod ein gwaith ni yw eu cefnogi nhw. Rydyn ni'n gwneud hyn mewn pedwar prif faes gweithgaredd: hyfforddi a rhwydweithio, ymchwil a datblygu (sy’n cynnwys ein prosiect Clwstwr), eiriolaeth a datblygu cynulleidfa. 

Dechreuon ni feddwl am ein prosiect Clwstwr yn ôl yn 2014

Pan lansiwyd yr hwb ddechrau 2014, prin oedd y trefniadau i helpu ffilmiau â chysylltiadau â Chymru i gyrraedd sinemâu. Roedd llawer o bobl yn dosbarthu eu ffilmiau eu hunain. O ran y ffilmiau hynny a lwyddodd i ddenu dosbarthwr, mae'n ddigon posib na fyddai'r dosbarthwr hwnnw'n ymwybodol o'r cyswllt Cymreig. Yn eu tro, efallai na fyddai'r sinemâu oedd yn eu dangos yn gwybod chwaith. Felly aethom ni ati i geisio gwella'r broses drwy ein strategaeth Gwnaethpwyd yng Nghymru.

Yn ystod y pedair blynedd gyntaf, buom ni'n gwarantu cost sgrinio ffilmiau o Gymru gan weithio'n galed i hybu ymwybyddiaeth ohonyn nhw. Cafwyd cynnydd yn y galw am ffilmiau o Gymru, ond roedd problemau strwythurol yn parhau i godi. Er enghraifft, roedd diffyg arian ar gyfer marchnata a dim digon o ddata cadarn ynglŷn â sut oedd ffilmiau o Gymru'n perfformio'n rhyngwladol. Roedden ni'n teimlo y gallai gwell cyfathrebu ar hyd y gadwyn ffilm wella'r neges i gynulleidfaoedd. 

Gwnaethom ni gais i Clwstwr am grant sbarduno i edrych ar y syniad o greu brand i ffilmiau o Gymru

Mae gan rai gwledydd bwyntiau gwybodaeth canolog lle gall unrhyw un weld ble i wylio ffilmiau rhanbarthol neu sut i ymuno â'r diwydiant ffilm. Roedden ni am ddefnyddio cyllid Clwstwr i feddwl am y camau gorau nesaf i Gymru ac a allem ni gynyddu ymwybyddiaeth o ffilmiau o Gymru drwy adeiladu brand o'u cwmpas.

Gyda'r grant sbarduno, roedd modd i ni gael arbenigwyr i'n helpu

Ar ôl cael cymeradwyaeth i'r cais, cyflwynon ni friff allanol yn galw am ddulliau posibl i weithio ar y syniad. Dewison ni gwmni ymchwil o Gymru o'r enw Wavehill. Hefyd gofynnon ni i a Ganolfan Celfyddydau Pontio a Phrifysgol Bangor gydweithio drwy ymarfer profi brand ac archwiliad o hunaniaeth Gymreig.

Roedd ein prosiect yn cynnwys nifer o gamau ymchwil

Dechreuodd Pontio ymchwilio i ganfyddiadau o hunaniaeth Gymreig. Yn y cyfamser, gosodon ni gwestiynau ymchwil gyda Wavehill i sefydlu'r hyn yr oedd angen i ni ei ddarganfod. Yna daethon ni â thros 20 o bartneriaid o’r diwydiant sgrin at ei gilydd mewn gweithdy i weld sut y gallai brand ffilm Cymru gefnogi eu sefydliadau. Yn dilyn hynny, anfonwyd arolwg dwyieithog at ein partneriaid ar draws y sector (yn cynnwys asiantaethau sgrin, dosbarthwyr a gwneuthurwyr ffilm yn y DU). Ochr yn ochr â hyn, roedd Pontio'n gweithio ar ganfyddiad brand. Y bwriad oedd y byddai myfyrwyr yn profi gwaith celf ein brand arfaethedig gyda grwpiau ffocws ond yn anffodus daeth COVID-19 i darfu ar y gwaith.

Difyr iawn oedd cael cipolwg ar arferion gorau rhyngwladol

Creodd Wavehill dair astudiaeth achos o diriogaethau rhyngwladol i ysbrydoli ein camau nesaf. Edrychon ni ar Screen Ireland, Telefilm Canada a Sefydliad Ffilm Sweden. Er eu bod yn diriogaethau mwy o faint, gyda mwy o gyllid ac adrannau strategaeth rhyngwladol, roedd eu hagweddau'n cyffroi. Maen nhw'n tueddu i gynnig cyllid ar gyfer arddangos, dosbarthu a hygyrchedd unwaith y bydd ffilm wedi'i chwblhau. Maen nhw'n gweithio ar strategaethau datblygu cynulleidfa drwy gydol datblygiad y ffilm a hyd yn oed ar ôl iddi gael ei chwblhau drwy astudio perfformiad a chodi disgwyliadau cynulleidfaoedd.

Ar ôl gorffen yr ymchwil, casglon ni bopeth at ei gilydd a'i ddadansoddi

Crëwyd adroddiad 80 tudalen o’r canlyniadau ymchwil a'r astudiaethau achos a'u crynhoi mewn ffeithlun. Roedd yr adroddiad yn dangos cefnogaeth eang i ddatblygu brand, ynghyd â'r camau y gallen ni eu cymryd i integreiddio marchnata mewn strategaeth sgrin i Gymru. Mae'n golygu na fydd cynifer o gyfleoedd i ddathlu Cymru ar y sgrin yn cael eu colli. 

Lansiwyd yr adroddiad ym mis Rhagfyr 2020

Edrychaf ymlaen at weld yr ymateb trwy gydol 2021, yn enwedig gan ein bod yn sefydlu rôl newydd Swyddog Gwnaethpwyd yng Nghymru gyda chefnogaeth Cymru Greadigol. Yn aml mae arddangos yn gorfod byw ar gyllideb fach a gall fod yn llai gweladwy na chynhyrchu ffilm. Gobeithio bod yr adroddiad hwn yn pwysleisio'r rôl hanfodol sydd iddo yn y gadwyn ffilm. Os yw ffilm yn ddigon da, allwn ni ddim rhagdybio bod hynny'n golygu y caiff ei gweld.

Rwy'n gobeithio y caiff ffilmiau o Gymru gydnabyddiaeth ryngwladol yn y dyfodol

Mae'r ymchwil wedi rhoi amser i ni feddwl am senarios delfrydol. Rydyn ni am i gynulleidfaoedd a'r diwydiant gael gwybod pa ffilmiau sy'n cael eu gwneud yng Nghymru, y llwybrau gorau i wneud ffilm, sut i gael dangosiad, pwy yw'r lleisiau amrywiol y tu ôl iddyn nhw, sut olwg sydd ar fywyd a hunaniaeth Cymru nawr ac ymhle mae'r sinemâu a'r gwyliau ffilm gorau i wylio ein straeon ar y sgrin. Gallai brand ein helpu i rannu'r negeseuon hyn yn rhyngwladol, gan olygu y gallai straeon Cymru sefyll ochr yn ochr â'r ffilmiau gorau ledled y byd. Rydyn ni wedi dechrau edrych ar sut y gallwn ni wneud i hyn ddigwydd.

 

Image © Youngun / Alex Melhuish (2018)