Gwybodaeth am Gorilla
Gorilla yw cwmni ôl-gynhyrchu mwyaf Cymru. Mae'n cefnogi llawer o wahanol feysydd cynhyrchu, gan gynnwys ffilmio, golygu, graddio lliwiau, cymysgu sain, graffeg, rhaglennu trosglwyddo byw a gorffen. Bob blwyddyn, mae Gorilla yn cynhyrchu miloedd o oriau o raglenni ar gyfer sianeli yn y DU ac yn rhyngwladol fel BBC, HBO a Netflix.
Dros yr 20 mlynedd diwethaf, rydym wedi gweld y galw am ôl-gynhyrchu yn tyfu
Mae ein busnes wedi mynd o fod yn ychydig o staff mewn un ystafell olygu i 60 aelod o staff mewn 100 o ystafelloedd golygu ledled Caerdydd a gweddill y DU. Wrth wneud hynny, rydym ni wedi dysgu addasu i dechnoleg newydd a ffyrdd o weithio. Rydym hefyd wedi dysgu bod llawer o werth mewn bod yn hyblyg, felly ein nod oedd peidio â gadael i gyfyngiadau daearyddol ein rhwystro.
Yn flaenorol, roeddem wedi colli cyfleoedd i wneud incwm oherwydd ein lleoliad
Defnyddir Cymru yn aml fel lleoliad saethu ar gyfer cynyrchiadau, ond nid yw’r elfennau ôl-gynhyrchu sy'n dilyn y ffilmio yn tueddu i aros yma. Gall hyn fod am nifer o resymau. Weithiau mae'r cwmnïau cynhyrchu eisiau i staff ddychwelyd i'w pencadlys i arbed ar gostau gwestai, er enghraifft. Weithiau, nid yw'r cwmnïau sy'n gwneud y ffilmio yn sylweddoli bod gennym y cyfleusterau golygu o bell sydd eu hangen arnynt yma. Rydym ni am gadw cymaint o'r broses gynhyrchu â phosib yng Nghymru, felly gwnaethon gyflwyno cais i Clwstwr gyda syniad i roi hwb i'n cynnig.
Yn rhan o’n prosiect Clwstwr gwnaethom greu pecyn cymorth golygu o bell i chwyldroi ein diwydiant
Dechreuodd y broses gyda ni yn gwneud ymchwil i'r gwahanol dechnolegau golygu o bell sy'n bodoli eisoes. Yna buom yn edrych am fylchau, meysydd a oedd yn peri pryder, a phethau a oedd yn atal y dechnoleg bresennol rhag bod yn ddigon da. Cadarnhaodd ein barn: mae'n anodd cefnogi sefyllfa lle mae gennych lawer o olygyddion, o dan wahanol gyfarwyddwyr, y mae angen iddynt weithio ar yr un deunydd o wahanol leoliadau o bell.
Roedd cyfuno technoleg bresennol a thechnoleg newydd yn teimlo fel ateb i broblemau llif gwaith o bell
Ar ôl i ni fapio'r hyn sy'n bodoli eisoes, gwnaethom symud ymlaen gyda gweithgynhyrchwyr gêr, cyflenwyr gêr a'r cwmnïau y tu ôl i systemau golygu. Gwnaethom egluro'r hyn yr oeddem am ei gyflawni a sut roeddem yn bwriadu mynd ati, a chafodd ymateb cadarnhaol. Gwnaeth hyn agor llawer o ddrysau a rhoi hwb i'n hygrededd yn y diwydiant.
Cyn hir, roeddem yn profi meddalwedd ac offer heb eu rhyddhau gan gwmnïau eraill a allai ddod yn rhan o'r pecyn cymorth. Gwnaeth hyn ein helpu i nodi offer y gallem eu rhoi at ei gilydd, fel cardiau caledwedd o bell a fyddai'n caniatáu ichi weithredu'r bysellfwrdd neu'r llygoden o bell.
Adeg allweddol inni oedd cael ein gwahodd gan Avid i brofi beta a mewnbwn ar eu platfformau o bell
Avid yw'r meddalwedd golygu y mae'r rhan fwyaf o ddarlledwyr yn ei ddefnyddio. Yn dilyn sgyrsiau ag Avid am yr hyn yr oeddem am ei gyflawni, daethom yn fabwysiadwyr cynnar o’u platfform o bell ac yn rhan o’u rhaglen profi beta ledled y byd i helpu i ddatblygu ac integreiddio’r system hon yn ein cyfleuster.
Buom yn gweithio gydag Avid i ehangu'r system honno. Maen nhw wedi bod yn diweddaru ac yn creu meddalwedd newydd i ni, yn seiliedig ar ein hymchwil a'n datblygiadau Clwstwr, ac maen nhw wedi bod yn ei ddefnyddio. Ar hyn o bryd rydym yn profi'r fersiwn ar raddfa fawr ar eu rhan ar gyfres, ac rydym eisoes yn gweld y buddion
Roedd ymchwilio i ddiogelwch y rhyngrwyd a'r cyfryngau yn agwedd arbennig o ddiflas
Mae gan lawer o'r cleientiaid rydym ni'n gweithio gyda nhw reolau llym ynglŷn â phwy sy'n gallu cyrchu beth, a wnaeth ein gwthio i edrych ar agweddau diogelwch mynediad o bell. Gwnaethom ddarganfod y gallem ddefnyddio waliau tân, mynediad VPN a thechnoleg ddiogelwch arall i gydymffurfio. Yn ddiddorol, gall defnyddio systemau o bell fod yn fwy diogel ar adegau na systemau nad ydynt o bell. Mae hyn oherwydd bod yr holl gyfryngau yn aros gyda ni; fe'u gwelir ar y sgrin o bell ond ni ellir eu defnyddio na'u cymryd.
Gwnaeth y pandemig ein taro ganol y prosiect, ond roeddem wedi paratoi ymlaen llaw
Wrth i'r cyfyngiadau symud gael eu cyflwyno, gwnaeth yr angen sydyn i bobl weithio gartref wneud ein prosiect yn hynod berthnasol. Yn lle dod â phopeth i ben dros dro, gwnaethom benderfynu gweithio'n galetach ac yn gyflymach i gyflwyno cynnyrch terfynol cyn gynted â phosib. Roeddem eisoes wedi llunio problemau posib a allai godi a'r ffyrdd amgen o weithio a allai helpu (rhaid cyfaddef, serch hynny, nad oeddem wedi dychmygu pandemig byd-eang). Roedd llawer o'n staff yn ymwneud â hyn hefyd, felly roedd ein staff yn gyfarwydd â'r gwahanol ffyrdd hyn o weithio.
Oherwydd nad yw pob golygiad yr un peth, roeddem wedi arbrofi i ddarganfod pa systemau oedd fwyaf addas ar gyfer pob math o olygu. Felly, pan darodd COVID-19, roeddem yn gallu dod o hyd i atebion ar unwaith. Er enghraifft, roeddem eisoes yn ymwybodol o'r problemau y gall cysylltedd band eang cartref eu hachosi. Roedd hyn yn golygu ein bod yn gallu cael golygyddion i adael inni wneud profion cyflymder ar eu bandiau eang cartref, fel y gallem drefnu eu mynediad yn y ffordd fwyaf effeithiol.
Mae ein pecyn cymorth wedi golygu bod y pandemig wedi effeithio llawer llai ar Gorilla
Ar hyn o bryd, rydym ni'n cadw'r gwaith sydd gyda ni. Mae'r pecyn cymorth yn hwyluso swyddi a fyddai fel arall wedi'u canslo neu'n amhosibl eu gwneud. Mae ein holl staff yn gweithio o bell ac rydym yn dal i gyflawni. Mae cwmnïau cynhyrchu eraill sydd am gyflwyno technoleg debyg i ni hefyd wedi dangos diddordeb ynom ni. Nid oeddem yn edrych yn arbennig i fasnacheiddio hawliau eiddo deallusol y pecyn cymorth, ond mae wedi dod yn opsiwn arall i ni.
O'r fan hon, rydym am i'n pecyn cymorth fod yn fwy ac yn well wrth i dechnoleg ddatblygu
Mae gennym bobl eisoes yn ein galw i fanteisio ar ein pecyn cymorth. Ers cwblhau'r pecyn cymorth, rwyf wedi cael cleientiaid yn galw am ddyfynbrisiau i wneud gwaith golygu o bell ar gyfresi sy'n debygol o gael eu comisiynu beth amser yn y dyfodol, sy'n wych. Ochr yn ochr â'n gwaith arall, rydym ni'n edrych ar yr hyn y gallai 5G ei gynnig i'r pecyn cymorth oherwydd mae'n berffaith ar gyfer y math o waith golygu rydym ni'n ei wneud. Ymhen amser, rwy'n siŵr y byddwn yn symud ymlaen i fersiynau 5G o'r hyn rydym ni'n ei wneud a byddwn ni'n ei fasnacheiddio.