Gwaith Sgrin 2020 yw'r arolwg cynhwysfawr cyntaf o’r anghenion o ran gweithlu, hyfforddiant ac addysg ar gyfer Ffilm, Teledu, Animeiddio, Gemau, VFX ac Ôl-gynhyrchu ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Fe'i hariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) trwy Clwstwr a'i gynnal gan Faye Hannah a'r Athro Ruth McElroy ym Mhrifysgol De Cymru.

Mae stori'r sector sgrin yn un o lwyddiant ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, yn dangos twf economaidd sylweddol a chynnydd mawr yn ei henw da fel lle i greu cynnwys ansawdd uchel i'r sgrin. Ar ôl dechrau o sylfaen isel, mae ein sector sgrin wedi tyfu i fod yn gartref i gynyrchiadau ffilm, teledu a gemau hynod o boblogaidd, sy'n cael eu hallforio'n eang ac sy'n ennill gwobrau.

Mae'r enw da hwn yn deillio o'r gweithwyr talentog, medrus sy'n galluogi ein diwydiant sgrin i fodoli. Canfyddiad Gwaith Sgrin 2020 yw bod y diwydiant hwn bellach mewn perygl o fod yn anghynaladwy, heb strategaeth sgiliau glir fydd yn sicrhau ffrwd o dalent o Gymru. Mae adroddiad Gwaith Sgrin 2020 yn dangos nad yw'r ymgyrch i ysgogi mewnfuddsoddiad i'r sector sgrin yn cyd-fynd â strategaeth sgiliau a datblygu'r gweithlu i Gymru. Mae'n nodi prinder sgiliau allweddol ac yn dangos sut mae cyfleoedd i greu sector mwy cynhwysol yn cael eu colli.

Dywed yr Athro Ruth McElroy: "Er mwyn sicrhau bod y sector sgrin ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gynaliadwy ac yn adlewyrchu Cymru iddi hi ei hun a gweddill y byd, mae Gwaith Sgrin 2020 yn dadlau bod angen strategaeth sgiliau gydlynol ac uchelgeisiol arnom bellach, fydd yn annog cydweithio rhwng diwydiant, addysg a darparwyr hyfforddiant a gweithio gyda'r llywodraeth i gyflawni hyn"

  • Mae 86% o'r holl sefydliadau annibynnol yn y diwydiannau sgrin ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn recriwtio am rolau yn y sector drwy sgwrsio ymhlith ei gilydd
  • Mae 73.3% o'r holl gwmnïau’n fentrau bach neu'n ficro-fentrau
  • Dim ond 5.5% o'r holl sefydliadau hyfforddi oedd yn cyflwyno hyfforddiant ar lefel broffesiynol neu uwch
  • Nododd 41.5% o'r holl weithwyr llawrydd yn sector sgrin y rhanbarth eu bod yn rhiant neu'n ofalwr

Mae'r canlynol ymhlith meysydd ffocws allweddol yr adroddiad:

 

Mae'r canlynol ymhlith meysydd ffocws allweddol yr adroddiad

Casglwyd y data ar gyfer yr adroddiad hwn yn ei gyfanrwydd yn ystod pandemig COVID-19. Mae'n paentio darlun o'r sector sgrin ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a chasglwyd yr holl ddata yng nghanol yr aflonyddwch a achoswyd gan COVID-19. Mae'r pandemig wedi cael effaith ddwys ar lawer o fusnesau creadigol a gweithwyr llawrydd, gyda llawer ohonynt yn wynebu colledion sylweddol mewn refeniw. Mae'r adroddiad yn cynnig llinell sylfaen fydd yn ein galluogi i wneud argymhellion yn y dyfodol i ddechrau cynorthwyo'r sector i ddeall sut y gall y sector sgrin ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd dyfu y tu hwnt i'r pandemig.

Ruth McElroy

Yr Athro Ruth McElroy, Prifysgol De Cymru

Faye Hannah headshot

Faye Hannah