Nimble Productions

Cwmni cynhyrchu darlledu a fideo yw Nimble Productions sy'n arbenigo mewn cynnwys diwylliant chwaraeon pen uchel ar gyfer y teledu ac ar-lein.

Chwaraeon sydd wrth galon ein gwaith bob amser

Cyd-sefydlais i Nimble Productions gyda Gareth Rees (Rheolwr Gyfarwyddwr) yn 2017. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi cynhyrchu rhaglenni a chynnwys fideo chwaraeon i'r BBC, Channel 4, BT Sport, Red Bull a llawer o allfeydd eraill. Mae hyn wedi cynnwys dogfennau (fel rhaglen ddogfen Geraint Thomas ar y Tour de France, Geraint Thomas: The Road Will Decide), rhaglenni adloniant (fel Six Nations Sin Bin gyda Gareth Thomas a Gabby Logan) a darlledu'r Gwobrau Action Woman i fenywod mewn chwaraeon. 

Mae pêl-droed menywod yn tyfu'n gyflymach nag erioed

Mae cyfranogi a diddordeb mewn pêl-droed menywod yn tyfu, diolch i bethau fel Llundain 2012 (lle'r oedd 44.2% o'r athletwyr yn fenywaidd) a Chwpan y Byd Menywod 2019 FIFA. Gweithion ni ar naw cyfres o The Clare Balding Show - diben y rhaglen yn rhannol oedd hyrwyddo chwaraeon menywod. Arweiniodd hyn at wneud un arall o sioeau Clare: Women's Football World – y gyfres gyntaf o'i math drwy'r byd.

Roedden ni'n gweld bod lle ar gyfer mwy o gynnwys pêl-droed menywod

O weld poblogrwydd cynyddol y gamp, roedden ni am greu canolbwynt cynnwys pêl-droed menywod sy'n cyflenwi sianeli digidol a chymdeithasol. Mae'n syniad sy’n manteisio ar y maes twf enfawr, byd-eang mewn ffordd gyffrous a chadarnhaol. Hefyd, gyda ni wrth y llyw, roedden ni'n gwybod y byddai tîm dibynadwy yn gyfrifol amdano, sydd wedi bod yn gweithio ym maes chwaraeon menywod ers tro byd.

Cawsom gyfle drwy Clwstwr i wneud buddsoddiad gwirioneddol gyda tharged penodol

Roedd creu canolbwynt ar gyfer cynnwys pêl-droed menywod yn syniad mor fawr; roedden ni'n gwybod bod angen llawer o amser, tîm mawr, yr arbenigwyr iawn a buddsoddiad. Roedden ni am gael trosolwg o'r diwydiant yn nhermau ble rydyn ni wedi bod, ble'r oedden ni, ble'r ydyn ni a ble'r ydyn ni'n mynd. Mae ein tirwedd darlledu a digidol yn newid mor gyflym; dyw'r hyn oedd yn gweithio ar sianeli cymdeithasol a digidol flwyddyn yn ôl ddim yn gweithio nawr oherwydd y newidiadau i'r algorithmau a dulliau creu cynnwys. Gyda hyn yn ein meddwl, gwnaethom gais am gyllid Clwstwr. Derbynion ni £30,000, gan godi cyllid cyfatebol hefyd, i weld a oedd ein syniad yn hyfyw a gwneud ymchwil dwys cyn y cyfnod creu. 


Cymerodd y broses, o gael y golau gwyrdd i gwblhau ein hadroddiadau, tua chwe mis. Dechreuon ni ym mis Medi 2019. Cynullon ni'r tîm at ei gilydd a gwneud cynllun ymchwil helaeth a chynllun actifadu. Yna, tua mis Hydref, trefnon ni grwpiau ffocws. Wrth i ni edrych yn fanylach ar y prosiect, trefnon ni i gael arbenigwyr yn rhan o'r gwaith. Daeth chwaraewyr pêl-droed proffesiynol a gyfarfyddon ni ar brosiectau eraill, menywod proffesiynol mewn chwaraeon, aelodau o'r cyfryngau a mwy. Hefyd roedd gennym ni ddarpar ddefnyddwyr cynnwys chwaraeon menywod a chawsom gymorth gan dîm Clwstwr, ynghyd â mynediad at eu harbenigedd, y data oedd ei angen arnom ni a chymorth gyda'r dadansoddi.


Mae gallu gwrando ar grwpiau ffocws cynulleidfaoedd a chael peldroedwyr rhyngwladol i’n helpu i roi rhywbeth at ei gilydd yn gyffrous iawn; fyddai hi ddim wedi bod yn bosibl heb fuddsoddiad ariannol a chefnogaeth tîm Clwstwr.


Casglon ni lawer o wybodaeth gan y bobl hyn a'n hymchwil, a'i gosod mewn setiau data cyn llunio gwahanol bapurau.  Roedd y rhain yn cynnwys papur ar y ddemograffeg o gwmpas pêl-droed menywod a chwaraeon menywod, un ar dueddiadau dosbarthu cynnwys cyfredol (yn cynnwys costau a marchnadoedd allweddol) ac un ar y farchnad hawliau i chwaraeon menywod. Roedd yn dasg anferthol! Tynnon ni'r holl wybodaeth a gasglwyd at ei gilydd a chyflwyno ein hadroddiad terfynol ar y canfyddiadau a'n cynlluniau at y dyfodol ym mis Chwefror 2020.


Mae ein canfyddiadau'n dangos bod diddordeb yn ein syniad

Darganfuon ni fod mwy o lwyfannau nag erioed ar gyfer chwaraeon menywod. Fodd bynnag, fe ddysgon ni hefyd fod pobl yn awyddus i weld cymuned pêl-droed menywod sy'n mynd y tu hwnt i’r gemau proffesiynol. Daeth nifer o opsiynau i'r golwg fel cynnwys yn gysylltiedig ag apiau symudol (rhai sy'n dangos sut gallai pobl chwarae, ble gallen nhw chwarae ac ati), a defnydd o dechnoleg arloesol a chyfarpar clyweled i gysylltu â'i gilydd a rhannu darllediadau ar lawr gwlad.


Yn dilyn yr ymchwil a datblygu, mae popeth yn symud i'r cyfeiriad cywir.

Mae'r canolbwynt cynnwys yn brosiect mawr cyffrous, a thrwy ymchwil a datblygu rydyn ni wedi gallu ei lenwi gyda syniadau ac ymagweddau newydd. Cyn gynted ag y bydd bywyd a busnes yn dychwelyd i normal yn dilyn aflonyddwch COVID-19, gallwn ddatblygu'r prosiect ymhellach. Rydyn ni wedi cael profiad mor gadarnhaol gyda thîm Clwstwr o'r dechrau i'r diwedd, ac rydyn ni'n ddiolchgar am fodolaeth y fath gyfleoedd i archwilio a datblygu syniadau creadigol.

Mwy am brosiect Clwstwr Nimble Productions, Canolfan Pêl-droed Menywod Rhyngwladol.