Nod y Prosiect

Pêl-droed menywod yw'r chwaraeon 'cymryd rhan' sy'n profi'r cynnydd mwyaf ar draws y byd, ac mae wrth wraidd yr ymdrech dros gydraddoldeb, ar y cae ac oddi arno. Mae Nimble Productions yn arwain y gad yn y maes hwn, mewn partneriaeth agos â deiliaid hawliau pêl-droed ar draws y byd. Nod Nimble yw creu canolfan ddigidol a chymdeithasol gyntaf y byd ar gyfer cynnwys pêl-droed menywod. Creu llwyfan i hyrwyddo, trafod a llywio'r gymuned hon, sy'n tyfu'n esbonyddol. Bydd yr arloesedd hwn ar bob un o'r prif rwydweithiau cymdeithasol, gan gynnwys Facebook, Instagram, YouTube a Twitter, yn ogystal â gwefan bwrpasol. Bydd yn blatfform lle gall technoleg a’r broses o greu cynnwys gyfarfod wyneb yn wyneb, gan ateb y galw sy’n tyfu’n gyflym am gynnwys digidol yn y mileniwm sydd ohoni.
