Gavin Johnson yw un o bedwar Cynhyrchydd Clwstwr. Dros y 15 mlynedd ddiwethaf mae Gavin wedi gweithio ar draws Cymru, y DU ac yn rhyngwladol mewn nifer o sectorau creadigol. Yma, mae'n siarad am y cysylltiadau a wnaeth a'r gwersi a ddysgwyd ar ei daith ddiweddar i Japan.

Pam es i i Japan? Mae'n gwestiwn da oherwydd dwyf i ddim yn 'gwneud' dim byd, dwyf i ddim yn artist gweledol, dwyf i ddim yn creu cerddoriaeth na chrefft na dim byd o ddeunydd crai. I weld pam, af i'n ôl ychydig mewn amser. Pan fyddaf i'n gweithio gyda phobl ac ar brosiectau, rwy'n gwybod beth rwy'n ei wneud ac mae pobl yn deall, ond mae esbonio ar bapur yn anodd. Fel y paragraff agoriadol hwn. 

Mae fy holl brofiadau yn y gorffennol wedi fy arwain at fy swydd bresennol - rwy'n gweithio rhan amser gyda Clwstwr fel Cynhyrchydd a rhan amser yn llawrydd. Drwy fy ngwaith llawrydd dechreuais i weithio gyda Gŵyl Glastonbury ac yn uniongyrchol gydag Emily Eavis a Nick Dewey. Dyma'r ddau a grynhodd yn union beth rwy'n ei wneud: "Gav, ti'n 'fixer', mae pobl yn dod atat ti gyda syniadau ac rwyt ti'n gwneud iddyn nhw ddigwydd, neu o leiaf yn ceisio gwneud." Rwy'n credu bod profiad yn ddefnyddiol yn Clwstwr ac rwy’n ceisio helpu sefydliadau i gyflawni eu dymuniad. 

Clwstwr + Ena Mai

Cododd y cyfle i fynd i Japan diolch i Cian Ciaran, un o bum aelod o'r Super Furry Animals ac un sy'n mwynhau her llawn cymaint â fi. Cysylltodd Cian â fi am fod Celfyddydau Rhyngwladol Cymru wedi ei gomisiynu i lunio cynnwys ar gyfer Cromen Gweledigaeth iglw newydd Llywodraeth Cymru. 

Yn 2017 rhyddhaodd CIan Rhys a Meinir, sgôr roedd wedi'i ddatblygu dros 20 mlynedd a berfformiwyd ochr yn ochr â 90 aelod Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Y bwriad oedd mynd â'r syniad hwnnw i Tokyo. Ond sut wyt ti'n cyflwyno'r IP hwnnw mewn cromen heb gerddorfa? 

Dim ond adnoddau ac amser cyfyngedig oedd gennym ni i roi syniad at ei gilydd. Felly cysylltom ni â Paul Nicholls yn Stiwdio Bait i esbonio'r sefyllfa. Yn rhyfeddol lluniodd Paul animeiddiad cynnil 30 munud i gyd-fynd â fersiwn meistr newydd o Rhys a Meinir. 

Ar ôl cyfnod byr iawn roedd gennym ni animeiddiad oedd yn cyd-fynd â sefyllfa'r iglw, cromen math 360 / toesen (gweler y lluniau), darn rhyfeddol o gerddoriaeth gerddorfaol a gwahoddom ni bobl i ddod i'w weld. 

 

 

Roedd yr ymateb yn anhygoel - o bobl yn galw heibio ac yn dod i mewn i eistedd, i blant yn eistedd ac yn cael eu difyrru gan yr animeiddiad am y 30 munud llawn. Roedd yn dangos eich bod yn gallu cyfuno cynnwys o wahanol ffurfiau celf i lunio rhywbeth pwerus. Roedd yn syndod i ni weld cynifer o bobl yn gadael gyda dagrau yn eu llygaid a chael eu cyffwrdd gan stori Rhys a Meinir, stori garu drasig. 

Rhys a Meinir

Prif ganlyniad gweithio ar Rhys a Meinir yw datblygu prosiect cydweithredol rhwng Clwstwr a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru yn y dyfodol. Gwelsom ni faint o effaith y gall cynnwys o Gymru ei gael yn Japan, felly pam na all hynny ddigwydd mewn gwledydd a gyda gwledydd eraill? Rydym ni am greu prosiectau arloesol ac yn amlwg ar ryw bwynt byddwn ni am arddangos y gwaith hwnnw... gwyliwch y gofod hwn!