Mae Nora Ostler Spiteri yn un o gyd-sylfaenwyr y cwmni cynhyrchu ffilm a theledu, Triongl. Mae prosiect Clwstwr Triongl yn Dwyn Arbenigedd Cymreig Cefn-wrth-Gefn i’r Farchnad Ryngwladol. Yn ddiweddar aeth Nora i MIPCOM yn Cannes, ac yma mae hi’n sôn am yr hyn mae hi wedi’i ddysgu o’r farchnad.
Rydw i wedi dod nôl o Cannes ers pythefnos nawr, ac mae fy mhen yn dal i droi! MIPCOM, y digwyddiad blynyddol sy’n cael ei gynnal yn y Palais yn Cannes, yw marchnad cynnwys mwyaf y byd, ac roeddem ni’n teimlo ei fod yn hollbwysig bod yn bresennol er mwyn pwyso a mesur y farchnad ar gyfer ein prosiect Clwstwr - Dwyn Arbenigedd Cymreig Cefn-wrth-Gefn i’r Farchnad Ryngwladol.
Sgwrs ddifyr gan #jedmercurio yn #mipcom / fascinating conversations at #mipcom2019 pic.twitter.com/nAi92pyr8Y
— triongl_tv (@triongl_tv) October 16, 2019
Fel roedd yn digwydd, ym mis Hydref yr oedd MIPCOM 2019 yn cael ei gynnal, ar yr union adeg pan oeddem ni’n cychwyn ein prosiect, felly roedd yn teimlo’n rhagluniaethol. Gan ein bod ni erioed wedi gwneud Ymchwil a Datblygu o’r blaen, roeddem ni braidd yn betrus (ac roedd y cysyniad yn gwneud i ni feddwl am ddynion mewn cotiau labordy), felly roedd yn wych cael rhwygo’r plastr i ffwrdd a chychwyn arni ar unwaith.
Gan ein bod eisoes wedi trefnu cyfarfodydd y tu allan i’r Palais gyda chysylltiadau cyn dyfarnu’r cyllid braenaru Clwstwr i ni, roedd yn golygu ein bod ni’n gallu cyflawni dau nod ar unwaith. Mae Triongl yn gwmni cynhyrchu sy’n canolbwyntio’n bennaf ar ddrama, ac rydym ni’n cael bod cynnal perthynas wyneb yn wyneb gyda’n cysylltiadau yn Ewrop yn hanfodol ar gyfer ein gwaith. Mae cydweithio yn allweddol, ac rydym ni’n credu y bydd y perthnasoedd hyn yn amhrisiadwy wrth dyfu cangen ymgynghoriaeth cefn-wrth-gefn y busnes.
Fe wnaethom ni lanio yn Nice brynhawn Llun, rhuthro draw i Cannes, gollwng ein bagiau, ac anelu’n syth am ein cyfarfod cyntaf, gyda dosbarthwr o Ewrop. Fel roedd hi’n digwydd, tynnodd Prif Swyddog Gweithredol y cwmni sylw at y ffaith bod gennym ni arbenigedd unigryw yn ein ffilmio cefn-wrth-gefn. Roedd hi wedi bod yn siarad â rhai cwmnïau Ewropeaidd y maen nhw’n gweithio gyda nhw, ac roedd wedi sôn am y model ffilmio y buon ni’n ei ddefnyddio gyda chynyrchiadau fel Keeping Faith/Un Bore Mercher a Hinterland/Y Gwyll, ac roedden nhw’n meddwl ei fod yn rhy dda i fod yn wir! Felly, pan esbonion ni ein bod yn MIPCOM yn rhannol i ymchwilio i’r syniad o ymgynghoriaeth, roedd hi’n gefnogol iawn, ac mae wedi cynnig ein rhoi ni mewn cysylltiad â’r cwmnïau cynhyrchu y buodd hi’n siarad â nhw. Dechrau gwych!
Our very own @Reese_Williams on the #MIPCOM2019 big screen / seren #pilipala ar sgrîn fawr #mipcom 🙌🏼 pic.twitter.com/OWqdX8ykHL
— triongl_tv (@triongl_tv) October 16, 2019
Roedd yn ddiddorol nodi bod dosbarthwyr sy’n tueddu i wneud y rhan fwyaf o’u busnes gyda darlledwyr yn y Deyrnas Unedig yn unig yn arafach i weld manteision y ffordd yma o weithio, tra bod cwmnïau sy’n gwneud y rhan fwyaf o’u busnes gyda darlledwyr a ffrydwyr yn Ewrop yn sicr yn deall y cysyniad a’r fantais. Roedden nhw’n deall yr hanfodion, h.y. y manteision ariannol a’r posibiliadau o ran ehangu’r farchnad, yn ogystal â gwerth diwylliannol galluogi cynhyrchwyr i greu cynnwys o ansawdd uchel mewn ieithoedd lleiafrifol, law yn llaw â chynnwys mewn ieithoedd sy’n cael eu siarad yn ehangach. Trwy sgwrsio gyda chwmnïau o bob rhan o Ewrop, dechreuodd darlun o’r farchnad ar gyfer ein gwasanaeth ddod i’r amlwg.
Nawr i’r Palais... Eisteddfod y marchnadoedd cynnwys! Mae’n anferth ac yn llawn hwyl, ac mae nifer y cwmnïau sydd yno’n prynu a gwerthu cynnwys yn anhygoel.
Ar y cychwyn roedden ni wedi tybio y byddai MIPCOM yn lle da i lansio’r ymgynghoriaeth, mewn digwyddiad panel gyda stondin i gyd-fynd â hynny, ond fe sylweddolais i’n fuan nad dyma oedd y lleoliad cywir. Mae cynrychiolwyr MIPCOM yn canolbwyntio cymaint ar brynu a gwerthu, ac mae’r ffaith bod cynifer o gwmnïau’n bresennol yn golygu y byddai llais gwahanol yn gwerthu gwasanaeth gwahanol yn mynd ar goll yn y cythrwfl.
Rydym wedi cynllunio teithiau i farchnadoedd cyd-gynhyrchu yn y flwyddyn newydd, sy’n canolbwyntio’n fwy ar frocera perthnasoedd rhwng partneriaid cynhyrchu, felly bydden nhw’n ymddangos yn ddewis mwy rhesymegol ar gyfer lansio’r gwasanaeth.
Ond bydd gennym ni feddwl agored wrth fynd yno, yn barod i’w newid - oherwydd fel rydym wedi dod i ddeall, dyna hanfod Ymchwil a Datblygu!