Nod y Prosiect
Am beth mae'r gynulleidfa ôl-bandemig yn chwilio? Mae'r pandemig byd-eang wedi arwain at wyliau ffilm ac arddangoswyr eraill yn gorfod troi at fodolaeth ar-lein. I lawer, gan gynnwys Gwobr Iris, roedd hyn yn eu galluogi i gyrraedd cynulleidfaoedd mwy ar draws ardaloedd ehangach. Nawr bod cyfyngiadau yn llacio, sut y bydd gwyliau ac arddangoswyr yn y sefyllfa orau i fodloni dymuniadau a diwallu anghenion cynulleidfaoedd: cydbwyso gweithgaredd wyneb-yn-wyneb ac ar-lein? Mae'r prosiect hwn yn ceisio ateb y cwestiwn hwnnw a dangos ymarferoldeb creu amgylchedd lle gall cynulleidfaoedd deimlo eu bod yn ymgysylltu ac yn cynnwys p'un a ydynt yn mynychu yn bersonol neu’n rhithwir.