Nod y Prosiect
Richard King yw un o brif awduron anffuglennol Cymru ac mae'n bartner sylfaenu'r Do-Lectures.
Mae ei lyfrau gwobrwyedig yn amrywio o'r diwydiant cerddoriaeth i hanes diweddar Cymru - A People’s History of Wales 1965-1995, a gyhoeddir gan Faber & Faber yn 2022.
Ei nod yw creu dulliau newydd o adrodd straeon - ochr yn ochr â'i fentrau cyhoeddi - sy'n cyrraedd cynulleidfaoedd y tu hwnt i'r gynulleidfa sy'n prynu llyfrau.
Bydd ei brosiect yn tynnu ar ei archif helaeth o gyfweliadau i archwilio ffyrdd o adrodd stori Cymru ddiwedd yr 20fed ganrif i gynulleidfaoedd newydd ac amrywiol, gan ddefnyddio, er enghraifft, gosodweithiau clywedol, tafluniadau cynfas mawr a cherfluniau sain.