Nod y Prosiect

Dechreuodd Candylion IP ei fywyd fel prif drac albwm arloesol Gruff Rhys Candylion. Daeth yn fyw fel cymeriad cardfwrdd wedi’i dorri allan mewn fideo pop, ac yna mewn cydweithrediad â Theatr Genedlaethol Cymru daeth yn gynhyrchiad theatr ymdrochol.

Mae ie ie productions a’r tîm creadigol am ystyried y posibiliadau o wneud ffilm lawn wedi’i hanimeiddio a gêm ar yr un adeg gan ddefnyddio’r gwaith celf dylunio ar draws y ddau lwyfan. Yn hytrach na chael dau ddull ar wahân rydym am weld a allwn ddatblygu un broses ddylunio a thechnoleg a allai weithio ar draws amryw lwyfannau, Gallai hyn o bosibl uno costau, sicrhau effeithlonrwydd, ehangu ein cyrraedd a manteisio ar arloesi yn y broses a’r dechnoleg mewn cyd-destun rhyngwladol masnachol.

The Candylion - a pink, cartoon lion