Nod y Prosiect

Caerphilly Observer logo

Mae rhestrau a chofrestrau llysoedd yn nodi pwy sydd wedi, a phwy sy’n mynd i ymddangos yn Llysoedd yr Ynadon, a chânt eu hanfon yn electronig bob dydd gan y llys lleol. Mewn cyfnod o ganoli a chau llysoedd, mae'r dogfennau hyn yn rhy anhylaw i newyddiadurwyr edrych arnynt a'u prosesu. Bydd Caerphilly Media Ltd, cyhoeddwyr papur newydd gwobrwyedig y Caerphilly Observer, yn datblygu meddalwedd sy'n tynnu'r wybodaeth hon ac yn ei storio mewn fformat chwiliadwy. Bydd hyn yn caniatáu i newyddiadurwyr edrych ar wybodaeth y llys yn rhwydd ac i gynllunio ymlaen yn fwy effeithiol.